Bydd Tom yn perfformio’r gyntaf o’r ddwy gig acwstig ar Sgwâr y Frenhines am 11.00am ddydd Sul, ac yna’n cyfarfod a chyfarch cyn ei ail berfformiad ar ôl cinio am 1.00pm.
Mae’r cyfan yn rhan o awydd Tom i arddangos rhai o’r trefi a’r dinasoedd o amgylch y DU – gyda’r nod o dynnu sylw at eu nodweddion arbennig.
Fe’i ganwyd yn Kilsyth, yr Alban, ym 1991 ond mae wedi’i fagu yn nhref Knutsford yn Swydd Gaer. Daeth yr alwad i Tom Walker fod yn ganwr / cyfansoddwr yn fuan ar ôl i’w dad fynd ag o i weld AC/DC yn naw oed, dechreuodd ymgyrchu am gitâr, a llwyddodd yn y diwedd i feistroli llu o offerynnau wrth ddysgu canu a chyfansoddi.
Cafodd ei ysbrydoli gan anturiaethau pop gwerin unigol Ed Sheeran tra’n mynychu London College of Creative Media ac, ar ôl cyfnod o berfformio ar y stryd a churo di-baid ar ddrysau’r busnes cerddoriaeth, dechreuodd ryddhau cyfres o senglau drwy Relentless/Sony yn 2016. Sefydlodd ei gyfuniad ei hun o ddylanwadau gwerin, pop a soul a’i faledau dwys, llawn emosiwn.
Ond ni ddaeth i enwogrwydd nes i “Leave a Light On” yn 2017 ffrwydro ledled Ewrop ac ennill statws platinwm iddo mewn sawl gwlad.
Y flwyddyn ganlynol, daeth y gân “Just You and I” hyd yn oed yn fwy poblogaidd, ac erbyn i’r ddwy gân ymddangos ar albwm cyntaf Walker yn 2019, What a Time to Be Alive, roedd yn amlwg mai o oedd y trwbadŵr mawr nesaf. Ategwyd hyn ymhellach gan fuddugoliaeth Walker yn y categori Best Breakthrough Act yn y Brit Awards y flwyddyn honno.
I gael gwybod mwy am Tom a gwrando ar ychydig o’i gerddoriaeth, ewch i’w wefan swyddogol; https://www.iamtomwalker.com/#
Tŷ Pawb ar agor 10am-4pm
Bydd masnachwyr Tŷ Pawb dethol, gan gynnwys y bar, ynghyd â mannau gwerthu bwyd a diod ar agor – dim ond 5 munud ar droed o Sgwâr y Frenhines!
Bydd maes parcio aml-lawr Tŷ Pawb ar agor 7am-6pm.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwerth £55,000 o Gyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gael ar gyfer Digwyddiadau Canol y Ddinas