Yn anffodus, rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad i dorri un o’r coed mwyaf blaenllaw yng Nghanol y Dref i lawr.
Mae’r Gastanwydden yng Ngardd Jiwbilî, ger mynediad Llyfrgell Wrecsam wedi pydru’n ddrwg ac mae perygl cynyddol iddi dorri neu gael ei dadwreiddio gan y gwyntoedd cryfion.
Mae’r gwaith ar y goeden, sy’n cael ei ddiogelu gan Orchymyn Diogelu Coed, wedi cael ei gymeradwyo gan yr Adran Gynllunio, a chaiff ei gyflawni dros ddau ddydd Sul er mwyn lleihau unrhyw aflonyddwch i’r rhai sy’n ymweld neu’n gweithio gerllaw.
Rydym wedi tocio’r goeden o’r blaen, er mwyn lleihau’r perygl iddi ddisgyn ac i ymestyn yr amser cyn ei bod hi’n angenrheidiol torri’r goeden i lawr.
Mae’r goeden wedi cael ei monitro dros nifer o flynyddoedd, ac mae’r penderfyniad i’w thorri i lawr wedi cael ei wneud er diogelwch.
Mae coeden newydd wedi cael ei phlannu yn yr ardd dros y gaeaf a bydd coeden arall yn cael ei phlannu’r gaeaf nesaf.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, aelod arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant – “Mae’n drueni bod rhaid i ni dynnu coeden aeddfed fel hon i lawr, ond mae’r gastanwydden wedi pydru ac yn dechrau marw, mae’r goeden wedi cael ei hasesu dros nifer o flynyddoedd gan ein swyddogion ein hunain ac ymgynghorwyr annibynnol. Nid yw’r penderfyniad hwn wedi bod yn un hawdd, ond mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â choed o’r fath sydd mewn cyflwr gwael, mewn ardal sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan gerddwyr”.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN