Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Torri’r gwair yn Nôl Queensway gan ddefnyddio pladur y grefft draddodiadol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Torri’r gwair yn Nôl Queensway gan ddefnyddio pladur y grefft draddodiadol
Y cyngor

Torri’r gwair yn Nôl Queensway gan ddefnyddio pladur y grefft draddodiadol

Diweddarwyd diwethaf: Medi 11, 2020 2:44 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Queensway Meadow
RHANNU

Cafodd dôl blodau gwyllt Queensway ei drin gan ddefnyddio arferion rheoli traddodiadol yr wythnos diwethaf pan gynhaliwyd deuddydd o hyfforddiant er mwyn cyflwyno’r grefft o bladuro i wirfoddolwyr.

Wedi’i drefnu gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, partner pwysig ym Mhrosiect Isadeiledd Gwyrdd Wrecsam, cafodd gwirfoddolwyr o rwydwaith Prosiect Bwydydd Anhygoel Wrecsam arddangosiadau ar y technegau, rheoli offer a phwysigrwydd cadw’r sgiliau yma’n fyw.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws 

Mae pladuro wedi bodoli ers cannoedd o flynyddoedd ac mae dal i fod yn un o’r dulliau mwyaf effeithlon o dorri gwair. Mae manteision pladuro yn niferus; nid yn unig y mae’n dawel ac yn eco-gyfeillgar; dim ond bôn braich y mae’n ei ddefnyddio; sy’n golygu ei fod yn ymarfer corff gwych hefyd!

Mae torri’r blodau gwyllt yr adeg yma o’r flwyddyn yn helpu i gynnal cymysgedd amrywiol o flodau a gwair ac mae’n helpu iddynt ddychwelyd y flwyddyn nesaf. Mae angen cynnal dôl o flodau gwyllt yn flynyddol er mwyn galluogi i’r rhywogaethau mwyaf dymunol i ffynnu a lleihau egni’r rhywogaethau fwy cryf, felly bydd torri’r rhain rŵan yn helpu hynny.

Meddai Jacinta Challinor, swyddog prosiect isadeiledd gwyrdd “Mae’r arddangosfa hyfryd yma wedi bod yn boblogaidd iawn yn y gymuned gyda phreswylwyr lleol yn dweud wrtha’ i eu bod wedi gweld plant yn chwarae a phobl yn tynnu lluniau. Fe soniodd un preswyliwr faint maen nhw’n mwynhau deffro a gweld y blodau y tu allan i’w ffenestr bob dydd. Mae clywed newyddion mor gadarnhaol yn codi calon.”

Fe ychwanegodd Iwan Edwards, swyddog prosiect gydag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, “Mae’r traddodiad o reoli dolydd gyda phladur yn mynd nôl i ddyddiau pan fyddai ffermydd a chymunedau yn helpu ac yn cefnogi eu gilydd gyda gwaith llaw yn y caeau. Hyd heddiw, y pladur yw un o’r offer mwyaf effeithiol i dorri gwair â llaw, ac fe fyddem ni’n croesawu pobl eraill i gymryd rhan i reoli’r dolydd newydd hyfryd yma ym Mharc Caia, i wella eu hiechyd a lles ac i fod yn rhan o brosiect gwych.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae hyn yn enghraifft ardderchog arall o brosiect Isadeiledd Gwyrdd ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gwella’r amgylchedd i breswylwyr ac ymwelwyr â Wrecsam. Mae’r dolydd wedi bod yn boblogaidd iawn ers iddynt gael eu plannu yn gynharach eleni, a gobeithio y gwelwn ni lawer mwy yn y dyfodol”.
Mae’r Prosiect Isadeiledd Gwyrdd yn gofyn am ymatebion ar gyfer y gwaith sydd wedi’u cynllunio’r hydref a’r gaeaf yma, felly cysylltwch â ni i ddweud eich dweud am yr enwebiadau a ddaeth i law. Dilynwch y ddolen yma i weld yr enwebiadau.

https://newyddion.wrecsam.gov.uk/isadeiledd-gwyrdd-yn-edrych-ar-gynigion-amgylcheddol-cyffrous-ar-gyfer-parc-caia-a-phlas-madoc/

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Spring Clean Cymru Mae Hydref Glân Cymru yn ceisio Cadw Cymru’n Daclus yn wahanol eleni
Erthygl nesaf A483 Digwyddiadau ymgynghori ar gyfer gwelliannau i gyffordd A483 wedi’u cyhoeddi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English