Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i beidio ag oedi cyn gwneud cais am gerdyn teithio newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i beidio ag oedi cyn gwneud cais am gerdyn teithio newydd
ArallFideoPobl a lle

Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i beidio ag oedi cyn gwneud cais am gerdyn teithio newydd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 13, 2020 4:19 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Bus Passes
RHANNU

Erthygl gwestai gan “Trafnidiaeth Cymru”

Mae Trafnidiaeth Cymru yn apelio ar ddeiliaid cardiau sydd heb wneud cais am eu cerdyn teithio newydd eto, ac yn pwysleisio pwysigrwydd gwneud cais am gerdyn newydd cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn mwynhau manteision teithio rhatach.

GWYLIWCH glip o deithwyr bws yn trafod sut oedd y broses o gyflwyno cais iddyn nhw:

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Dyw sganwyr electronig ar fysiau ddim yn adnabod yr hen gardiau teithio gwyrdd ers 31 Rhagfyr 2019. Cytunwyd ar gyfnod gras gyda’r gweithredwyr bysiau i ganiatáu i ddeiliaid cardiau allu defnyddio eu hen gardiau. Mae’r cyfnod gras yn dod i ben ar 29 Chwefror 2020, sy’n golygu mai’r cardiau newydd yn unig fydd yn cael eu cydnabod ar gyfer teithio o 1 Mawrth 2020 ymlaen.

Dywedodd James Price, Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru: “Rydyn ni wedi derbyn bron i 600,000 o geisiadau am gardiau teithio yn ystod y chwe mis diwethaf, ac mae’r gwaith caled yn parhau wrth i ni brosesu ceisiadau bob dydd er mwyn anfon y cardiau newydd allan i ddeiliaid cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Er ei fod yn gadarnhaol iawn i nodi fod y rhan fwyaf o deithwyr bws rheolaidd wedi derbyn eu cardiau newydd, mae’n hanfodol i ni atgoffa pawb sydd heb wneud cais eto y dylen nhw wneud hynny cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i elwa ar fanteision eu cardiau teithio ar ôl 29 Chwefror.

“Os oes rhywun yn gwybod am gymydog, perthynas neu ffrind oedrannus sy’n meddu ar gerdyn teithio, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw helpu i sicrhau eu bod yn gwneud cais am gerdyn teithio newydd cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau i sicrhau bod y trosglwyddiad i’r drefn newydd yn digwydd mor ddidrafferth ag sy’n bosibl wedi i’r cyfnod gras ddod i ben. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod ni’n cefnogi profiadau teithio’r defnyddwyr mwyaf bregus.”

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Hoffwn ddiolch i’r mwy na hanner miliwn o bobl ledled Cymru, gan gynnwys ffrindiau, teulu a gofalwyr, sydd wedi gweithredu’n brydlon ac wedi gwneud cais am gardiau newydd.

“Mae gweithredwyr bysiau wedi cytuno’n hael ar gyfnod gras o ddau fis sydd wedi caniatáu mwy i amser i filoedd o ddeiliaid cardiau wneud cais am eu cardiau newydd a’u derbyn. Daw’r cyfnod gras hwn i ben ar 29 Chwefror felly mae’n bwysig iawn bod pobl yn gwneud cais am eu cerdyn arddull newydd cyn gynted â phosibl.

“Mae Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi gweithio’n ddiflino dros y misoedd diwethaf i brosesu’r nifer enfawr o gardiau newydd, ac maent yn parhau i fod ar gael i ddarparu cefnogaeth os oes angen.”

Mae cyflwyno’r cardiau newydd yn garreg filltir arwyddocaol i Trafnidiaeth Cymru, wrth iddo weithio tuag at gyflawni ei weledigaeth i greu rhwydwaith drafnidiaeth integredig gyffrous ac o safon fyd-eang ledled Cymru. Cynlluniwyd y cardiau newydd fel y bydd modd eu defnyddio ar sawl dull o deithio yn y dyfodol.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog deiliaid cardiau i wneud cais ar-lein, os yn bosibl, ar y wefan yn www.trc.cymru/cy/cerdynteithio. Gwneud cais ar-lein yw’r ffordd gyflymaf, oherwydd mae’n bosibl na fydd angen i ddeiliaid cardiau gyfleu llun neu ddogfennaeth newydd, gan fod manylion yn cael eu gwirio drwy gronfeydd data’r llywodraeth. Mae cymorth i wneud cais ar-lein ar gael gan gynghorau lleol, neu gall deiliaid cardiau holi rhywun maen nhw’n ymddiried ynddynt i wneud cais ar eu rhan. Mae modd gwneud cais ar bapur hefyd, ond mae Trafnidiaeth Cymru yn pwysleisio bod hynny’n cymryd mwy o amser i’w brosesu.

Os oes pryderon gan unrhyw un, mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i gysylltu ar fyrder drwy alw’r llinell gymorth ar 0300 303 4240 neu drwy e-bostio’r tîm yn cardiauteithio@trc.cymru.

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Business Support Admin roles jobs Swyddi gweinyddol, cyfle i drydanwr a gwaith ym myd addysg…mwy o’n swyddi diweddaraf
Erthygl nesaf lan Ydych chi’n landlord preifat sy’n darparu llety yn Wrecsam?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English