Mae angen ymgynghoriad newydd ar gyfrwng iaith ffederasiwn ysgolion gwledig.
Gellid ceisio barn trigolion wrth i Gyngor Wrecsam edrych eto ar ddarpariaeth addysg Gymraeg yng Nglyn Ceiriog.
Gallai Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam lansio ymgynghoriad ffres ar ffederasiwn tair ysgol yn Nyffryn Ceiriog.
Fis Rhagfyr y llynedd, cymeradwyodd cynghorwyr ddechrau ymgynghoriad ar newid cyfrwng iaith Ysgol Cynddelw, Glyn Ceiriog, o gyfrwng deuol Cymraeg/Saesneg i gyfrwng Cymraeg yn unig.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad, y gofynnwyd amdano gan Fwrdd y Llywodraethwyr yn Ysgol Cynddelw, ym mis Ionawr, ac roedd yn cynnwys cyfarfod cyhoeddus gyda budd-ddeiliaid yn yr ysgol tua diwedd mis Chwefror.
Ar ôl cael nifer o ymatebion gan ymgyngoreion, mae’r Cyngor bellach wedi penderfynu edrych eto ar ddarpariaeth ar draws y tair ysgol yn ffederasiwn Glyn Ceiriog: Ysgol Cynddelw, Ysgol Pontfadog ac Ysgol Llanarmon.
Opsiynau
Bydd yr ymgynghoriad newydd yn gofyn i fudd-ddeiliaid a rhieni am eu barn ar y tri opsiwn gwahanol:
- Cynnal y status quo a chadw’r tair ysgol fel y maen nhw
- Newid yr iaith yn Ysgol Cynddelw i fod drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig, a symud disgyblion cyfrwng Saesneg i Ysgol Pontfadog
- Cadw statws ffrwd ddeuol yn Ysgol Cynddelw, cau Ysgol Pontfadog a symud disgyblion i Ysgol Cynddelw.
Bydd adroddiad sy’n amlinellu’r opsiynau yn cael ei gyflwyno gerbron Bwrdd Gweithredol Cyngor Wrecsam ddydd Mawrth, 11 Gorffennaf.
“Credwn fod angen ymgynghoriad ehangach”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Ar ôl mynd drwy rownd gyntaf yr ymgynghoriad ar Ysgol Cynddelw yn arbennig, ac ar ôl archwilio barn ymgyngoreion, credwn fod angen ymgynghoriad ehangach er mwyn asesu’r ddarpariaeth addysg o fewn yr ardal.
“Nid yw trefniadau presennol yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn y ffederasiwn, tra byddai niferoedd uwch yn Ysgol Pontfadog – pe byddem yn cymryd mwy o ddisgyblion cyfrwng Saesneg – yn gwella effeithlonrwydd o ran adnoddau.
“Bydd y rownd newydd o ymgynghori, pe bai’n cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd, yn rhoi mwy o ganfyddiadau manwl i ni, a fydd yn cefnogi gwell darpariaeth ysgol yng Nglyn Ceiriog yn y dyfodol.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI