Cyhoeddwyd y newyddion y bydd y gwaith i Dŵr Gogleddol hen Farchnad y Bobl, sydd wedi’i hailenwi’n ‘Tŷ Pawb’ yn ddiweddar, yn dechrau’r wythnos nesaf.
Bydd y tŵr yn cael ei beintio yn barod at frandio newydd Tŷ Pawb a fydd yn cael ei arddangos yn nigwyddiad agoriadol ‘Dydd Llun Pawb’ ar ddechrau’r flwyddyn.
Tra bo’r gwaith yn mynd yn ei flaen bydd sgaffaldiau o gwmpas y tŵr a fydd yn golygu bod cerddwyr sy’n defnyddio’r gornel yn gorfod mynd drwy’r allanfa dân ac i mewn i Arcêd y Gogledd hen Farchnad y Bobl. Bydd cyn lleied o amhariad i gerddwyr â phosib.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Ni fydd gyrwyr cerbydau yn gallu troi i’r ardal gerddwyr Ffordd Caer chwaith tra bo’r gwaith yn cael ei wneud rhwng 11am a 6pm, ddydd Llun 27 Tachwedd tan ddydd Gwener 1 Rhagfyr.
Mae’r llwybr amgen i yrwyr sy’n cael eu heffeithio gan y gwaith drwy Ffordd Caer, Sryt Yorke, Stryt y Marchog, Ffordd Sir Amwythig, Ffordd Gyswllt Dôl yr Eryrod, Ffordd y Ffair, Cilgant San Siôr, Stryt y Farchnad ac Stryt Holt. Gosodir arwyddion priodol.
Mae’r gwaith yn rhan o’r ailddatblygiad £4.2 miliwn i hen Farchnad y Bobl i greu cyfleuster cymunedol celf a marchnadoedd modern.
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.