Dros y misoedd diwethaf mae nifer o fusnesau lleol a grwpiau cymunedol o amgylch bwrdeistref Wrecsam wedi mynychu sesiynau ffrindiau dementia er mwyn cael mwy o ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia.
Mae’r sesiynau hefyd wedi ymestyn i athrawon ysgol, CA5 a CA6, grwpiau plant a sgowtiaid, gyda mwy o sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer y dyfodol.
Mae nifer o’n hadrannau ein hunain hefyd wedi cymryd rhan mewn sesiynau ffrindiau Dementia ac mae hyn wedi cael ei ymestyn i’r adran blant hefyd. Ar hyn o bryd mae 19 Cefnogwr Dementia o fewn yr awdurdod sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu sesiynau ffrindiau Dementia sy’n para awr, ac am ddim. Os hoffech ddarganfod mwy am y sesiynau hyn, cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU, ac mae disgwyl i’r nifer hwn godi o 1 miliwn erbyn 2021.
Mae’n hanfodol ein bod yn cynllunio ymlaen llaw a chwilio am ffyrdd i gefnogi’r cynnydd hwn mewn niferoedd, a sut i barhau i godi ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia a’r effaith mae’n ei gael ar ofalwyr.
“Bws Teithiol Dementia“
Mae Dementia yn gwneud i bobl deimlo’n ddryslyd, ar eu pennau eu hunain, ar goll, yn ofnus ac yn ddiamddiffyn. Er mwyn gwybod sut mae hyn yn teimlo, rydym yn falch o weithio gyda thîm y Bws Teithiol Dementia, sy’n rhoi cyfle i bobl gerdded yn esgidiau’r bobl sy’n byw gyda dementia. Yna, gallwn fod mewn sefyllfa well i newid yr amgylchedd ac arferion gweithio, er mwyn galluogi pobl gyda dementia i aros yn eu cartrefi yn hirach a gwella gofal.
Hyd heddiw, mae tua 900+ yn Wrecsam wedi bod yn y bws, ac mae’r adborth wedi bod yn wych –
- Rŵan rwy’n deall pam bod fy mam yn gwneud y pethau hyn, roeddwn i’n arfer gweiddi arni am wneud y pethau hynny
- Dylai’r hyfforddiant hwn fod yn orfodol i bawb
- Mae hyn wedi fy annog i fynd ymlaen i wneud mwy o hyfforddiant
- Bydd hyn yn fy helpu yn fy rôl
- Anhygoel, gallaf newid fy arferion nyrsio i weddu hyn
- Yn hynod o ddiddorol a defnyddiol, bydd yr hyfforddiant yn aros gyda mi am amser maith
Mae’r bws yn parhau i fod yn boblogaidd iawn, a ddoe yn ystod y daith gerdded yn Erddig, roedd yn orlawn.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi os ddaw’r bws teithiol Dementia yn ôl i Wrecsam.
“Yn y cymunedau“
Yn ogystal â’r Bws Teithiol Dementia yn y fwrdeistref sirol, mae ein llyfrgelloedd hefyd wedi ymuno, ac wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau hyfforddi Ymwybyddiaeth Dementia. Mae’r digwyddiadau hyn yn boblogaidd iawn fel arfer, felly cadwch lygad am ddigwyddiad yn eich llyfrgell leol dros y misoedd nesaf.
Mae Holt a’r Waun wedi cael eu cydnabod fel cymunedau sy’n gyfeillgar i ddementia, ac mae gwaith yn digwydd ar hyn o bryd i weithio gyda busnesau lleol o fewn yr ardaloedd hyn.
“Grantiau bychain ar gael“
Mae cyfle hefyd i dderbyn grant bychan os ydych yn ystyried sefydlu grŵp gweithgaredd yn y gymuned a fydd o fantais i’r rhai sy’n byw gyda Dementia. Dyma yw’r Grant Cynhwysiant Cymunedol a gellir gofyn am ffurflen gais gan y Tîm Comisiynu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn, ond caiff ceisiadau eu hystyried gan y Panel Grantiau oddeutu bedair gwaith y flwyddyn.
E-bost: commissioning@wrexham.gov.uk
Ffôn: 01978 292066
“Canmoliaeth i Dacsis Apollo“
Mae menter ddiweddaraf staff hyfforddi Ymwybyddiaeth Dementia wedi bod yn y byd masnachol, wrth i yrwyr tacsis Apollo arwain y ffordd, a chyflawni’r hyfforddiant. Rydym yn gobeithio mai dyma’r cyntaf o nifer o weithrediadau masnachol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda’r cyhoedd ac yn debygol o fod mewn cysylltiad â’r rhai sy’n byw gyda Dementia.
Gyrwyr tacsis Apollo yn arwain y ffordd ar ymwybyddiaeth o ddementia
Os hoffech gysylltu â ni er mwyn derbyn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Dementia, cysylltwch â commissioning@wrexham.gov.uk neu os oes diddordeb gennych weithio yn y diwydiant gofal i helpu gofalu a chefnogi’r rhai sy’n byw gyda Dementia, cysylltwch â workforcedevelopment@wrexham.gov.uk.
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym yn gweithio’n galed gyda sefydliadau eraill i godi ymwybyddiaeth o sut mae byw gyda Dementia. Mae’n hynod o anodd i bawb sydd ynghlwm, ond os ydym yn gwybod mwy, gallwn baratoi yn well i helpu, cynghori a chefnogi. Hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion diddiwedd dros y misoedd diwethaf, ac rwy’n gwybod y bydd eu hymrwymiad yn parhau yn y dyfodol.”
Wrth edrych yn ôl, rydym wedi gwneud cynnydd mawr o ran codi ymwybyddiaeth o Ddementia, a gobeithiwn y bydd y gwaith yn parhau yn y dyfodol er mwyn ein gwneud ni oll yn ymwybodol o sut mae byw gyda Dementia.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN