Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi manylion treialu Parcio a Theithio gyda’r nod o leihau tagfeydd a chynnig parcio cyfleus ar gyfer y gemau cartref sy’n weddill y tymor hwn ar gyfer Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Dai a Newid Hinsawdd: “Gyda llwyddiant parhaus Clwb Pêl-droed Wrecsam a nifer y cefnogwyr, sy’n cynyddu’n barhaus, sydd eisiau mynd i gemau cartref, rydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i fynd i’r afael â’r problemau sy’n gysylltiedig â’r galw am barcio ar ddiwrnod gêm.
“Rwy’n falch o gyhoeddi bod Cyngor Wrecsam wedi dod i gytundeb gydag Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru i weithredu gwasanaeth bws gwennol pwrpasol i ategu’r cyfleuster parcio diwrnod gêm presennol sydd ar gael o’n safle Ffordd Rhuthun.
“Gall cefnogwyr elwa o barcio am ddim ar y safle, ac yna byddant yn gallu teithio i’r cae ras ac oddi yno ar wasanaeth bws lleol pwrpasol. £2 fydd pris tocynnau i oedolion, £1.30 i blant a phobl ifanc, a derbynnir tocynnau consesiynol.
“Bydd y treial hwn yn dechrau gyda’r gêm gartref nesaf ddydd Sadwrn, 22 Mawrth pan fydd Stockport County yn ymweld â Chae Ras STōK, a bydd yn rhedeg am weddill y tymor hwn.”
Cynnig teithio gostyngedig pellach
Ychwanegodd Adam Marshall, Pennaeth Masnachol Ardal, Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru: “Rydym yn falch iawn o allu chwarae rhan mewn darparu opsiwn teithio cynaliadwy i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam drwy ddefnyddio ein profiad o ddarparu atebion bws lleol ar gyfer symud torfeydd mewn gemau chwaraeon.
“Nid partneru gyda Chyngor Wrecsam i ddarparu bws gwennol Parcio a Theithio yw ein hunig gyfraniad. Bydd Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru’n cyflwyno cynnig tocynnau pellach i gyd-fynd â dechrau’r treial hwn.
“Bydd unrhyw gefnogwyr sy’n teithio ar ein rhwydwaith o fewn ffin Sir Wrecsam ar ddiwrnodau gemau, sy’n dangos eu tocyn gêm i’n gyrrwr, yn elwa o docyn diwrnod pris gostyngol am £3 i oedolion, a £2 i blant neu bobl ifanc sydd â phàs dilys fyngherdynteithio.”
Amseroedd ymadael Parcio a Theithio
Bydd y gwasanaeth bws o Ffordd Rhuthun yn dechrau am 1pm a bydd yn rhedeg bob 20 munud i Ffordd yr Wyddgrug ar gyfer y stadiwm tan 2.40pm.
Ar ôl y gêm, bydd bysus yn gadael Ffordd Ganolog yr A541 am 5pm bob 20 munud, yna o 6pm bob 20 munud gyferbyn â’r stadiwm ar Ffordd yr Wyddgrug.
Mae hyn er mwyn darparu ar gyfer cau Ffordd yr Wyddgrug yr A541 pan fydd cefnogwyr yn gadael y stadiwm wedi’r gêm.
Bydd y treial Parcio a Theithio ar waith ar gyfer gweddill gemau cartref y tymor, a lle nad yw’r gic gyntaf am 3pm, bydd amserlen y bws gwennol yn rhedeg y munudau priodol yn gynharach neu’n hwyrach i wneud yn iawn am hyn.