Gyda’r Nadolig yn agosáu, bydd nifer ohonom yn disgwyl i fwy o barseli gael eu danfon i’n cartrefi, a fydd mewn rhai achosion yn arwain at gael cardiau ‘wedi methu danfon’ drwy’r drws.
Mae Safonau Masnach yn rhybuddio pobl i dalu sylw manwl i’r cardiau sy’n cael eu postio drwy’n drysau ni, gan fod disgwyl i un math o dwyll cyfarwydd gael ei ddefnyddio’n amlach yn y misoedd i ddod, a allai gostio’n ddrud i rai.
Ers nifer o flynyddoedd, wrth i’r Nadolig agosáu, mae cardiau ‘wedi methu danfon’ sy’n edrych yn swyddogol wedi cael eu dosbarthu i dai, yn dweud wrthyn nhw ffonio rhif penodol er mwyn trefnu i ail-ddanfon eu parsel.
Fodd bynnag, bydd ffonio’r rhif hwn yn cysylltu’r unigolyn â rhif cyfradd premiwm, ac unwaith y bydd yn clywed neges wedi’i recordio, bydd tâl sylweddol yn cael ei godi arno – dros £300 yn aml.
Mae rhai o’r cardiau hyn wedi’u dylunio i edrych fel cardiau’r Post Brenhinol neu rai cwmnïau adnabyddus, ond gall eraill honni eu bod gan wasanaeth danfon sy’n swnio’n swyddogol. Mae’r cardiau hyn wedi dod yn fwy soffistigedig dros amser, felly mae Safonau Masnach yn eich cynghori chi i dalu sylw manwl iawn i unrhyw gardiau y byddwch chi’n eu cael drwy’r drws.
Os hoffech chi roi gwybod am rywbeth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!