Bydd Gŵyl Gerddoriaeth NEWYDD Wrecsam yn dod i Dŷ Pawb dros wyliau’r Pasg! Bydd modd i chi alw draw i Dŷ Pawb a gwrando ar gerddoriaeth wych gan rai o gerddorion ifanc Wrecsam.
Rhwng Ebrill 15 a Ebrill 18, bydd myfyrwyr a disgyblion o bob cwr o’r Fwrdeistref Sirol yn arddangos eu talent gerddorol mewn gŵyl i’w chynnal yn Nhŷ Pawb.
Bydd dau grŵp oedran yn cystadlu (dan 12 ac 13-18 oed) am Dlws Gŵyl Cerddoriaeth Wrecsam, gyda chwe chategori ymhob grŵp – allweddellau, pres, chwythbrennau, llais, llinynnau ac offerynnau taro.
Bydd enillydd bob categori yn y ddau grŵp oedran yn mynd ymlaen i gystadlu am y brif wobr.
Fel bonws ychwanegol i’r ŵyl, bydd modd i chi ddod i berfformiad gan un o gerddorion ifanc mwyaf dawnus Wrecsam, Elias Ackerley, sy’n 18 ac o Goedpoeth.
Cyrhaeddodd Elias y rownd derfynol yn ei gategori yng nghystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn BBC 2018, a bydd yn perfformio datganiad yn ystod yr Ŵyl ddydd Iau, 18 Ebrill. Bydd ei gydfyfyrwyr o Ysgol Gerdd Chethams ym Manceinion yn ymuno ag ef.
Bydd y datganiad yn siŵr o fod yn un cofiadwy, a bydd cyfle i glywed Elias a’i gyfeillion yn rhannu eu teimladau am y ffordd mae cerddoriaeth yn eu hysbrydoli.
Dywedodd Cydlynydd yr ŵyl, Derek Jones: “Ers y cyhoeddiad am doriadau i gyllid gwasanaethau cerddoriaeth ysgolion yn 2018, mae Cerddorfa Symffoni Wrecsam a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi bod yn ymchwilio i opsiynau posib i gefnogi cerddoriaeth fyw yn Wrecsam a chynnig cyfleon i ddisgyblion ysgol a myfyrwyr arddangos eu dawn gerddorol ynghyd â chefnogi eu datblygiad parhaus.
“Mae’r Gerddorfa wedi elwa’n eithriadol o waith gwych Gwasanaeth Cerddoriaeth Wrecsam dros nifer o flynyddoedd, ac mae nifer o gyn-aelodau yn perfformio gyda rhai o’r prif gerddorfeydd ensemble yn y wlad. Mae Gŵyl Gerddoriaeth Wrecsam yn fynegiant o ymrwymiad y Gerddorfa i ddisgyblion ein hysgolion a myfyrwyr ein Bwrdeistref.
“Mae’r cyngherddau Cerddoriaeth Fyw wythnosol yn Nhŷ Pawb yn boblogaidd dros ben, gyda chynulleidfaoedd o rhwng 60 a 90 yno yn rheolaidd. Mae’r niferoedd uchel o gerddorion ifanc sy’n awyddus i berfformio yno yn galonogol.
“Rydym yn llawn cynnwrf am y posibiliadau y bydd yr Ŵyl yn eu cynnig i’n cerddorion ifanc ac yn ystyried hyn yn gam cyntaf positif tuag ail-ddechrau Gŵyl Gelfyddydol NEWYDD Wrecsam yn 2020 a fydd, gobeithio, yn cefnogi’r gwaith arbennig a wneir gan dîm Tŷ Pawb mewn perthynas â diwylliant, y celfyddydau a chymunedau.”
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN