Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Tywydd oer – Gwybodaeth bwysig i denantiaid Cyngor Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Tywydd oer – Gwybodaeth bwysig i denantiaid Cyngor Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Tywydd oer – Gwybodaeth bwysig i denantiaid Cyngor Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2018/03/02 at 5:00 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Tywydd oer – Gwybodaeth bwysig i denantiaid Cyngor Wrecsam
RHANNU

Yn ogystal â’n hatal rhag gallu mynd o gwmpas, gall tywydd oer hefyd achosi pob math o broblem yn ein cartrefi. Dyma rai canllawiau i’n tenantiaid cyngor ar gyfer ymdrin â rhai o’r problemau mwyaf cyffredin:

Cynnwys
Pibellau dŵr wedi rhewiPethau i’w hosgoiYswiriant
  • Rydym ni wedi bod yn derbyn nifer fawr o alwadau ynglŷn â phibellau dŵr wedi rhewi / blocio. Yn anffodus, ychydig iawn fedrwn ni ei wneud i helpu – fedrwch chi ond gadael y pibellau i ddadmer yn naturiol. Fodd bynnag, dyma ychydig o gyngor i’ch helpu.
  • Peidiwch â ffonio ein Gwasanaeth Atgyweirio oni bai bod argyfwng fel byrst dŵr. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni’n gallu blaenoriaethu digwyddiadau mwy difrifol.
  • Gallwch roi gwybod i ni am ddigwyddiadau llai difrifol yn defnyddio’r ffurflen ar-lein.

COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Pibellau dŵr wedi rhewi

  • Trowch y gwres i fyny – gallwch geisio dadmer pibellau wedi rhewi drwy godi’r tymheredd yn eich eiddo. Efallai y bydd troi’r thermostat i fyny yn ddigon i doddi’r rhew yn y bibell
  • Tyweli poeth – ffordd arall i ddadmer pibell wedi rhewi ydi lapio tyweli sydd wedi eu trochi mewn dŵr poeth o amgylch y bibell. Gall hyn helpu i ddadmer y rhew yn araf
  • Cadwch ddrysau cypyrddau ar agor – agorwch ddrysau cypyrddau cegin ac ystafell ymolchi er mwyn gadael i aer cynhesach gylchredeg o gwmpas y gwaith dŵr. Cofiwch symud unrhyw lanhawyr peryglus a chemegau o afael plant
  • Mwy o inswleiddio – rhowch fwy o ddeunydd inswleiddio o dan sinciau, mewn isloriau neu ar hyd y tu allan i’ch eiddo
  • Os ydi pibell yn byrstio, y peth cyntaf y dylech chi ei wneud ydi troi’r prif gyflenwad dŵr i mewn i’ch eiddo i ffwrdd
  • Os oes gennych chi doiled y tu allan gyda thap cau ar wahân, trowch y cyflenwad dŵr i ffwrdd hyd nes bydd y tywydd wedi cynhesu.

Pethau i’w hosgoi

  • Peidiwch â cheisio dadmer pibell yn defnyddio fflam agored. Bydd hyn yn difrodi’r bibell a gall hyd yn oed gynnau tân yn eich eiddo.

Yswiriant

Cofiwch, nid yw’r Cyngor yn atebol am ddifrod yn sgil pibellau wedi rhewi. Bydd yn rhaid i chi gael yswiriant cynnwys tŷ sy’n darparu’r sicrwydd hwn. Cewch fwy o wybodaeth yma.

Meddai’r Aelod Arweiniol dros Dai, y Cyng. David Griffiths: “Mae ein Gwasanaeth Atgyweirio yn gweithio’n galed i gynorthwyo tenantiaid  ac yn cynnig y cyngor gorau ar gyfer delio â phroblemau a achosir gan y tywydd garw. Yn anffodus, ychydig iawn y gellir ei wneud o ran pibellau wedi’u rhewi tra bod y tymheredd yn parhau i fod yn is na sero. Byddwn yn annog tenantiaid i edrych ar y cyngor yn yr erthygl hon a sicrhau eu bod yn barod, pe bai’r gwaethaf yn digwydd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

“Byddwn hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd cael yswiriant cynnwys cartref. Nid yw’r cyngor yn yswirio tenantiaid yn awtomatig yn erbyn difrod fel pibellau wedi byrstio. Byddwn yn annog tenantiaid yn gryf i sicrhau eu bod yn cael eu cwmpasu er mwyn osgoi mynd â’r costau anferth posibl a all ddeillio o’r math hwn o niwed. ”

Gallwch wybod sut i baratoi ar gyfer tywydd gwael

Peidiwch byth â  methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

COFIWCH EICH BINIAU

Rhannu
Erthygl flaenorol Photo of girl with dandelion clock Gwnewch wahaniaeth go iawn i fywyd plentyn
Erthygl nesaf Trevor i ymgymryd â chymal Tour de France i godi arian Trevor i ymgymryd â chymal Tour de France i godi arian

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English