Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Un mis yn weddill gan 323,700 o gwsmeriaid credydau treth i adnewyddu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Un mis yn weddill gan 323,700 o gwsmeriaid credydau treth i adnewyddu
ArallPobl a lle

Un mis yn weddill gan 323,700 o gwsmeriaid credydau treth i adnewyddu

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 1, 2022 9:42 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Tax Credits
RHANNU

Erthyl gwadd – CThEM

Mae 323,700 o gwsmeriaid heb adnewyddu eu credydau treth eto cyn y dyddiad cau, ac mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn eu hatgoffa i wneud hyn erbyn 31 Gorffennaf – neu bydd eu taliadau’n dod i ben.

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy dargedu cymorth ariannol, felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn adnewyddu cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau nad ydynt yn colli’r cyfle i gael yr arian y mae ganddynt hawl iddo.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yn rhad am ddim drwy GOV.UK neu ap CThEM.

Mae adnewyddu ar-lein yn hawdd ac yn gyflym. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

“Dim ond un mis sydd ar ôl gan ein cwsmeriaid credydau treth adnewyddu. Mae’n hawdd gwneud hyn ar-lein neu drwy ap CThEM – chwiliwch am ‘credydau treth’ ar GOV.UK.”

Gall cwsmeriaid sy’n dewis defnyddio ap CThEM ar eu ffôn clyfar wneud y canlynol:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • gwneud newidiadau i’w hawliad
  • gwirio amserlen y taliadau ar gyfer eu credydau treth
  • cael gwybod faint y maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEM i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.

Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEM am y newid. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • trefniadau byw
  • gofal plant
  • oriau gwaith, neu
  • incwm (cynnydd neu ostyngiad)

Cyhoeddwyd Taliad Costau Byw o £650 gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar – sy’n daladwy fesul dau gyfandaliad ar wahân o £326 a £324 – ar gyfer aelwydydd sy’n cael budd-daliadau a chredydau treth penodol, i helpu â chostau byw. Maent yn gymwys ar gyfer y ddau daliad, os mai credydau treth yn unig y maent yn eu cael. Bydd CThEM yn cysylltu â nhw ac yn anfon y taliadau’n awtomatig, gyda’r cyntaf yn cael ei wneud erbyn yr hydref. Does dim rhaid i gwsmeriaid gysylltu â CThEM na gwneud cais am y taliad.

Mae rhagor o wybodaeth am y Taliad Costau Byw, gan gynnwys cymhwystra, ar gael ar GOV.UK.

Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Gallai llawer o gwsmeriaid sy’n symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol fod ar eu hennill yn ariannol a gallant ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio hynny. Os bydd cwsmeriaid yn dewis gwneud cais yn gynt, mae’n bwysig cael cyngor annibynnol ymlaen llaw gan na fyddant yn gallu mynd yn ôl i gredydau treth nac unrhyw fudd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.

Mae CThEM yn annog cwsmeriaid i beidio â rhannu’u manylion mewngofnodi ar gyfer CThEM ar unrhyw adeg. Gallai rhywun sy’n eu defnyddio ddwyn oddi ar y cwsmer neu wneud hawliad twyllodrus yn ei enw. Mae CThEM hefyd yn rhybuddio pobl i bwyllo, a pheidio â chynhyrfu, os bydd rhywun yn cysylltu â nhw gan honni ei fod yn gweithio i CThEM ac yn gofyn iddynt drosglwyddo arian ar frys neu roi gwybodaeth bersonol. Mae’r adran yn annog pobl i gymryd pwyll ac i wirio cyngor CThEM ar sgamiau ar GOV.UK.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Sheltered Housing Mae gennym lefydd gwag o fewn ein Cynlluniau Tai Gwarchod
Erthygl nesaf Trafnidiaeth Cymru yn dadorchuddio trenau newydd Trafnidiaeth Cymru yn dadorchuddio trenau newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English