Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyflwyno prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 1 a 2
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cyflwyno prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 1 a 2
Pobl a lleY cyngor

Cyflwyno prydau ysgol am ddim i flynyddoedd 1 a 2

Diweddarwyd diwethaf: Mai 31, 2023 10:05 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Universal free school meals
RHANNU

Os ydi eich plentyn ym mlwyddyn 1 neu 2 yn yr ysgol gynradd, bydd y wybodaeth hon o ddiddordeb i chi!

Ers mis Medi, mae pobl plentyn yn y dosbarth derbyn ar draws Cymru wedi derbyn prydau am ddim yn yr ysgol, a chyflwynir Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd i bob disgybl ym mlynyddoedd 1 a 2 yn Wrecsam o fis Ebrill hefyd.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Dyma ail gam ymateb Llywodraeth Cymru i bwysau cynyddol costau byw ar deuluoedd, er mwyn mynd i’r afael â thlodi plant a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol. Bydd yr un cynnig ar gael i flynyddoedd 3 i 6 o fis Medi 2023.

Ydi eich plentyn eisoes yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim?

Os ydi eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd yn seiliedig ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch hefyd hawlio cymorth ychwanegol trwy’r Grant Datblygu Disgyblion, sy’n cynnwys cymorth ariannol ar gyfer gwisg ysgol, offer chwaraeon a dyfeisiau.

I hawlio’r cynllun eleni, ewch i Grant Datblygu Disgyblion (PDG) | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Felly, wrth i dymor yr haf agosáu, rydym yn annog rhieni i ymgeisio am y gefnogaeth sydd ganddynt hawl iddo.

Ydi eich sefyllfa ariannol wedi newid dros y flwyddyn ddiwethaf?

Os nad yw eich plentyn yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim ar hyn o bryd, ond bod eich amgylchiadau wedi newid eleni, efallai y gall Wrecsam gynnig cymorth i chi. I wirio a ydych chi’n gymwys am Brydau Ysgol am Ddim i , ewch i Prydau Ysgol am Ddim | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Os ydych chi’n gymwys, efallai bod modd i chi dderbyn y Grant Datblygu Disgyblion hefyd. Meddai’r Cyng.

Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Os ydych chi’n credu y gallech chi fod yn gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd, ewch i’n gwefan a gwneud cais os yw eich plentyn yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 neu Flwyddyn 2 ac yn gymwys am Brydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, mae’n bosibl y byddwch chi’n gallu cael mynediad at y Grant Datblygu Disgyblion hefyd, sy’n gam pwysig wrth atal arian rhag rhwystro addysg plant. Rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo eu bod yn gymwys i gysylltu â ni i gefnogi rhieni a dysgwyr trwy’r flwyddyn ysgol.”

Eich plentyn yn dechrau ysgol? Byddwch angen cyfrif Parent Pay

Er mwyn i’ch plentyn dderbyn pryd ysgol am ddim – boed yn Bryd Ysgol am Ddim Cyffredinol mewn Ysgol Gynradd neu’n Bryd Ysgol am Ddim ar sail cymhwyster – byddwch angen cyfrif ar wefan Parent Pay www.parentpay.com

Dyma sut i greu cyfrif:

  1. Anfonwch e-bost at schoolmeals@wrexham.gov.uk gan nodi enw llawn eich plentyn, eu dyddiad geni ac enw eu hysgol, a gofynnwch am god gweithredu Parent Pay
  2. Byddwch yn derbyn cod gweithredu ar gyfer sefydlu eich cyfrif.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am help ariannol sydd ar gael i’ch plentyn yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol, gallwch gysylltu â ni ar freeschoolmeals@wrexham.gov.uk

Os ydi eich plentyn yn gymwys am bryd ysgol am ddim, bydd angen i chi archebu ymlaen llaw ar Parent Pay. Mae hyn o gymorth mawr i ysgol eich plentyn, gan nad oes angen i athrawon dreulio amser yn cymryd archebion.

Golyga hefyd fod eich plentyn yn cael eu dewis cyntaf o bryd o fwyd, ac mae’n ein helpu i leihau gwastraff. Unwaith y byddwch wedi sefydlu cyfrif Parent Pay, gallwch archebu prydau bwyd eich plentyn hyd at bythefnos ymlaen llaw.

Rhannu
Erthygl flaenorol Food waste action week Wythnos Taclo Gwastraff Bwyd 2023
Erthygl nesaf Cerflun a Gardd Goffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig i gael eu dadorchuddio ar 18 Mawrth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026
Water
Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr
Arall Fideo
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English