Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Up The Town! – Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Up The Town! – Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Up The Town! – Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 18, 2022 1:46 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Museum
RHANNU

Arddangosfa Ffotograffiaeth Newydd ar Flaengwrt Amgueddfa Wrecsam

Blaengwrt Amgueddfa Wrecsam yw lleoliad arddangosfa ffotograffiaeth awyr agored newydd gan Carwyn Rhys Jones, ffotograffydd dogfennol o Ogledd Cymru.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Mae’r arddangosfa yn rhan o brosiect ehangach sy’n canolbwyntio ar brofiadau bywyd cefnogwyr CPD Wrecsam a’u hymrwymiad i’r clwb.

Dechreuodd Carwyn Rhys Jones y prosiect oherwydd ei gred ym mhwysigrwydd cefnogwyr i glybiau pêl-droed a sut mae’r storïau am eu bywydau yn rhan allweddol o’u perthynas â’r clwb. Rhoddodd Carwyn y prosiect ar waith trwy gysylltu â nifer o glybiau cefnogwyr Wrecsam, a thrwy roi gwell syniad iddynt o’r gymuned sy’n cefnogi CPD Wrecsam.

Dywedodd Carwyn Rhys Jones “Dechreuais ar y prosiect ar ôl cwrdd â Richard Chadwick a chlywed am sut oedd cefnogi’r clwb wedi chwarae rhan allweddol yn ei fywyd fel oedolyn. Rhannais stori Richard ar Instagram, ac fe aeth y prosiect o nerth i nerth, gyda mwy o bobl yn cymryd rhan, gan gynnwys Arthur Massey, cefnogwr hynaf Wrecsam; Kerry Evans, swyddog cyswllt anabledd y clwb; a Tim Edwards, golygydd y cylchgrawn i gefnogwyr, Fearless in Devotion.

“Dewisais amrywiaeth o gefnogwyr ar gyfer yr arddangosfa, gan fy mod i eisiau cynrychioli pawb. Dwi’n teimlo fod y prosiect wedi fy ngwneud yn hyd yn oed mwy o gefnogwr CPD Wrecsam. Mae teyrngarwch y cefnogwyr i’r clwb yn rhagorol.”

Y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau “Gyda Chwpan y Byd ar fin dechrau a’r het fwced anferthol sy’n cynrychioli’r cefnogwyr ar yr ochr genedlaethol yn ei lle ar flaengwrt yr amgueddfa, mae Carwyn Rhys Jones yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cefnogwyr i’n clwb pêl-droed lleol, ac o ran pêl-droed yn gyffredinol. Mae Wrecsam, fel ‘cartref ysbrydol pêl-droed Cymru’ yn falch o ddathlu ymroddiad cefnogwyr i’w clybiau.

“Mae eu cariad tuag at y gêm cyn gryfed â chariad y selogion cynnar a sefydlodd dîm cyntaf Cymru yn ôl ym 1876.”

Agorir yr arddangosfa ffotograffiaeth am Hanner Dydd, ddydd Sadwrn 19 Tachwedd 2022 ar flaengwrt yr amgueddfa ar Stryt y Rhaglaw.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol recruitment event Llwyddiant mawr i ddigwyddiad gwybodaeth a recriwtio gyda dros 100 o bobl yn mynychu
Erthygl nesaf Toilet Lleisiwch eich barn am y ddarpariaeth toiledau cyhoeddus yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English