Bydd rhai sy’n ymweld â Byncws y Waun yn cael pleser o’i weld ar ôl gwaith uwchraddio mawr.
Mae’r adeilad, a agorodd yn 2000, yn fan gorffwyso poblogaidd i sefydliadau ac mae’n darparu bynciau a lloches i nifer o bobl, gan gynnwys grwpiau Sgowtiaid a Geidiaid, rhai sy’n canŵio, cerddwyr, rhai ar daith Dug Caeredin ac eraill.
Ond ar ôl ei ddefnyddio am bron i 20 mlynedd, penderfynodd Ymddiriedolaeth Lôn y Bugail, sy’n rheoli’r cyfleuster ar Lôn y Bugail yn y Waun, bod angen uwchraddio’r cyfleusterau ac fe ddaethant atom ni i weld a fyddem yn gallu helpu.
Bu i ni eu rhoi mewn cysylltiad â Mitie, cwmni sy’n gwneud gwaith ar rywfaint o’n heiddo gwag.
Gwnaed y gwaith drwy ein Cynllun Mantais Gymunedol sy’n golygu bod ein contractwyr yn cyfrannu at y cymunedau maent wedi gweithio ynddynt.
Roedd Mitie’n falch o ymgymryd â’r her, gan ariannu gwaith i uwchraddio’r gegin a’r ardal eistedd. Gwnaed y gwaith hwn gan ParkCity. Mae Kronospan hefyd wedi ymgysylltu â’r gymuned, gan gyfrannu llawr laminedig am yr eisteddle ac un o’r ystafelloed bynciau.
Mae’r gwaith yn y gegin yn cynnwys llawr ac unedau wal newydd, sinc draenio dwbl, basnau golchi dwylo, arwynebau gweithio, a pheiriant gwyntyllu uwchben y cwcer.
Er mwyn i’r Byncws edrych fel ei fod wedi cael ei adnewyddu’n llawn, fe dalodd yr Ymddiriedolaeth am waith i wella’r ystafelloedd gwely, y neuadd ymgynnull, y toiledau, y cawodydd a’r cyntedd.
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Rydyn ni wastad yn ddiolchgar iawn i’n contractwyr am gymryd rhan mewn gwaith er budd y gymuned, a hoffwn ddiolch i bawb a oedd ynghlwm â’r gwaith o adnewyddu cyfleusterau Byncws y Waun.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Lleol De’r Waun a Chadeirydd yr Ymddiriedolaeth: “Mae wedi bod angen adnewyddu’r Byncws ers peth amser, ac rydw i a’r ymddiriedolwyr yn falch iawn bod y gwaith yn y gegin a’r ardal eistedd wedi’i gwblhau ac rydym yn ddiolchgar i bawb a fu’n rhan o’r prosiect hwn.
“Rydyn ni hefyd yn falch iawn ein bod wedi gallu gwneud mwy o waith hefyd, sydd wedi helpu i wella safon y Byncws yn gyffredinol, ac a fydd yn gwella’r hyn rydyn ni’n ei gynnig i ymwelwyr fel lle i aros wrth ymweld â’r rhan hon o Gymru.
“Dylem hefyd ddiolch i’n tîm Comisiynu a Chontractau sydd wedi sicrhau bod y cais hwn am waith cymunedol yn cael ei baru gyda’r contractwr cywir.”
Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.
CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN