Gall entrepreneuriaid sydd â diddordeb mewn cychwyn busnes yn Wrecsam fanteisio ar lawer o gymorth yn rhad ac am ddim.
Mae Cyngor Wrecsam, Busnes Cymru a sawl asiantaeth leol arall yn cynnig pob mathau o gymorth i bobl ac arnyn nhw eisiau troi eu breuddwydion yn realiti.
Mi fyddwch chi’n synnu faint o gymorth sydd ar gael – o gymorth i chwilio am eiddo a chynllunio busnes i hyfforddiant am ddim. Mae cefnogi busnesau newydd yn gwneud synnwyr.
Gall busnesau newydd cyffrous roi hwb i’r economi leol a chreu swyddi i bobl leol.
DERBYNIWCH NEWYDDION A GWYBODAETH GAN GYNGOR WRECSAM YN SYTH BIN DRWY FY NIWEDDARIADAU.
Dyma ychydig o’r llefydd y gallwch chi dderbyn cymorth a chefnogaeth os oes arnoch chi eisiau cychwyn busnes yn Wrecsam.
1. Cyngor Wrecsam
Rydym ni wedi bod yn cefnogi busnesau ers peth amser bellach, ac mae gennym ni lawer o adnoddau ag arbenigeddau i’ch helpu chi.
Gallwch eich helpu i ganfod eiddo, i rwydweithio gyda busnesau eraill a’ch cysylltu â chyflenwyr posibl (yn ogystal â chwsmeriaid).
Gallwn hefyd eich cyfeirio at hyfforddiant a grantiau.
Beth am fwrw golwg ar dudalennau’r Llinellfusnes ar gyfer busnesau newydd, neu alw heibio i Lyfrgell Wrecsam i gael sgwrs (mae’r Llinellfusnes i fyny’r grisiau)?
2. Busnes Cymru
Y rhyngrwyd. Sut gwnaethom ni fyw hebddi?
A sut lwyddodd busnesau newydd i fyw heb wefan Busnes Cymru?
Mae hwn yn adnodd gwych ar gyfer unrhyw un sy’n ystyried cychwyn busnes yn Wrecsam – ac yn unrhyw le arall yng Nghymru hefyd.
Fe gewch chi ganllawiau manwl ar bethau fel cynllunio busnes, TGCh a marchnata.
Yn ogystal fe allwch chi ddarllen straeon llwyddiant gan entrepreneuriaid sydd wedi mentro a defnyddio llwyfan hyfforddiant ar-lein am ddim o’r enw BOSS (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein).
Ar ben hynny, fe gewch chi lwythi o wybodaeth am ddigwyddiadau busnes a gweithdai lleol. Felly i ffwrdd â chi i rwydweithio.
3. Cyflymu Busnesau Cymru
Mae technoleg ddigidol (h.y. technoleg ar y we) yn ffactor pwysig ar gyfer unrhyw fusnes – bach neu fawr.
Dysgu sut i greu gwefan a fydd yn cynyddu eich gwerthiant. Diogelu’ch hun rhag ymosodiadau seiber. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu â chwsmeriaid posibl…
Gall pethau fel hyn helpu busnesau newydd gychwyn arni.
Cyflymu Busnesau Cymru yw cangen ddigidol Busnes Cymru ac mae’n darparu gweithdai a chefnogaeth arall i entrepreneuriaid fynd i’r afael â materion digidol.
Mae yna lawer o fudiadau eraill all ddarparu cefnogaeth hefyd, o golegau a phrifysgolion i ddarparwyr hyfforddiant arbenigol a chyllidwyr.
Os ydych chi’n ystyried cychwyn busnes yn Wrecsam, cysylltwch â’n tîm cymorth i fusnesau ar 01978 667300.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL