Ydych chi’n gwybod beth yw’r gair Cymraeg am microwave?
Dewch o ’na. Rhowch gynnig arni. Mi gewch chi funud neu ddwy. Wedyn, edrychwch isod am yr ateb.
Ydi o gennych chi?
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Da iawn! Meicrodon!
O … Popty Ping oedd eich cynnig chi?
Wel, dyna un ffordd o’i ddweud o – ond mae hwnnw’n fwy o derm ffwrdd â hi, a dweud y gwir. Mae o wedi dod yn boblogaidd fel term Cymraeg am ei fod o’n hwyl i’w ddweud (rhowch gynnig arall arni – “popty ping”!)
Ond “meicrodon” – y cyfieithiad llythrennol – ydi’r term manwl gywir.
Os ydi’r uchod wedi ennyn eich diddordeb, a’ch bod yn meddwl y gallai fod mwy i’r iaith Gymraeg yr ydych chi’n methu allan arno, mae’n bosib y bydd arnoch chi awydd rhoi cynnig ar gyfres newydd o sesiynau Cymraeg yn Nhŷ Pawb.
Awyrgylch gyfforddus ac ymlaciol
Bob dydd Sul, mae Tŷ Pawb yn gwesteio sesiwn sgwrsio a dysgu anffurfiol ar gyfer rhai sy’n awyddus i ddysgu i siarad Cymraeg, ac fe wahoddir dechreuwyr a dysgwyr mwy profiadol i ddod draw er mwyn siarad â’i gilydd yn Gymraeg.
Mae’n anffurfiol iawn – ac er y bydd athrawon wrth law er mwyn rhoi cymorth â thermau a gramadeg anodd, mae’n gyfle yn bennaf i bobl ddysgu ac ymarfer eu sgiliau iaith Gymraeg mewn awyrgylch gyfforddus ac ymlaciol.
Ac os ydych chi awydd ymlacio ymhellach gyda choffi, tapas neu gyri, bydd masnachwyr marchnad Tŷ Pawb wrth law i helpu i greu’r awyrgylch.
Mae’r sesiynau yn digwydd bob dydd Sul rhwng 10am a hanner dydd, ac eto rhwng 1pm a 3pm.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU