Rydym yn ymwybodol o Dwyll DVLA arall yn dweud wrth bobl nad yw eu car wedi ei drethu ac i ddilyn dolen sydd wedi ei dylunio i ddwyn gwybodaeth bersonol – a’ch arian mae’n debyg!
Mae’r negeseuon e-bost yn edrych yn swyddogol felly os ydych yn cael un cysylltwch â’r DVLA i sicrhau eich bod yn gwybod beth yw statws eich treth car.Cynghorir cwsmeriaid mai’r unig le i gael gwybodaeth swyddogol am y DVLA a’i wasanaethau yw GOV.UK
Nid yw’r asiantaeth byth yn gofyn am fanylion banc dros e-bost a byth yn anfon negeseuon testun am dreth cerbyd neu debyg.
Yn ogystal ag anfon unrhyw negeseuon e-bost a negeseuon testun amheus ymlaen, mae gan y DVLA 5 awgrym gwych i fodurwyr aros yn ddiogel ar-lein:
- peidiwch byth â rhannu delweddau o drwydded yrru a dogfennau cerbyd ar-lein
- peidiwch byth â rhannu manylion banc neu ddata personol ar-lein
- osgoi gwefannau sy’n cynnig cysylltu â chanolfan gyswllt y DVLA
- dim ond defnyddio GOV.UK wrth edrych am fanylion cyswllt y DVLA
- cysylltu â’r heddlu trwy Action Fraud yn syth os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich twyllo
Dywedodd Roger Mapleson, Aelod Arweiniol ar gyfer Safonau Masnach a Thrwyddedu, “Mae negeseuon e-bost twyll o’r math hwn yn cael eu defnyddio i godi braw ar bobl i wneud penderfyniadau gwael er mwyn osgoi dirwy. Os ydych yn cael hwn neu e-bost arall yn gofyn i chi weithredu yna edrychwch am y ffeithiau eich hun a pheidiwch byth â dilyn unrhyw ddolenni.
“Mae twyllwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o sut i dwyllo pobl felly mae’n bwysig gwybod beth sy’n digwydd trwy gysylltu ag Action Fraud.
“Os ydych chi’n credu eich bod wedi cael eich twyllo, dylech hysbysu Action Fraud ynglŷn â hyn drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Ymgyrch yn galw am gydnabyddiaeth a chefnogaeth ar gyfer miloedd o ofalwyr ifanc llawn ysbrydoliaeth yng ngogledd a chanolbarth Cymru