Bydd llawer ohonoch chi rŵan yn dechrau ar yr ail wythnos o addysgu yn y cartref neu addysgu yn yr ysgol dan amgylchiadau gwahanol iawn, a hynny wrth geisio cadw at ganllawiau’r Llywodraeth i olchi dwylo yn aml a chadw pellter. Rydych chi i gyd wedi gweithio’n galed iawn yr wythnos hon. Rydych chi’n cymryd eich rôl o ddifrif ac yn gwneud gwaith penigamp.
Mae ein Prif Weithredwr, Ian Bancroft, ac Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Mark Pritchard, wedi anfon neges atoch chi:
“Hoffem ddiolch i bob un ohonoch chi sy’n parhau i gymryd eich cyfrifoldebau dros ein pobl ifanc o ddifrif yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Fe wyddwn nad yw’n hawdd, ond does dim dwywaith amdani rydych chi’n gwneud gwaith penigamp. A chofiwch, dydyn ni ddim yn disgwyl i chi gadw’n gaeth i drefn yr ysgol. Gwnewch yr hyn sy’n iawn ac yn gweithio i chi. Bydd yn helpu eich lles chi a bydd eich plant yn hapus eich bod chi’n dawel eich meddwl.”
“Ac i’n holl staff addysgu a chefnogi yn ysgolion y fwrdeistref sirol – diolch yn fawr iawn i chi. Rydych chi’n gwneud gwaith arbennig yn cefnogi ein gweithwyr allweddol ac yn helpu rhieni a gofalwyr i addysgu yn y cartref a, heb amheuaeth, dw i’n gwybod y byddwch chi’n parhau i ddarparu cymorth cyhyd â bod angen.”
“Dydyn ni ddim yn gwybod am faint y byddwn yn gweithio dan gyfyngiadau o’r fath ond gallwn sicrhau pawb bod ein staff wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi ac yn mynd i gadw mewn cysylltiad â’n hysgolion i ddarparu cyngor a chyfarwyddyd ac i helpu ble bynnag y bo angen.”
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Once again our Healthy Schools team has come up with some great resources that we hope you will find useful and educational at the same time. Check them out below:
Unwaith eto mae ein Tîm Ysgolion Iach wedi creu adnoddau defnyddiol a all fod o ddefnydd i chi i gyd – gobeithio y cewch fudd ohonyn nhw. Dewch i gael golwg arnyn nhw yma:
Os ydych chi’n chwilio am ychydig o ysbrydoliaeth ar gyfer y plant neu wrth eich bodd efo Richard Shaw, fe allwch chi fwrw golwg ar ei dudalen Facebook HAPI Cook-a-long, “Cooking Together Wales”. Bydd Richard yn defnyddio amrywiaeth o fwydydd o’r oergell, rhewgell a’r cwpwrdd ac yn darparu tiwtorialau am ddim ar ei dudalen Facebook pob dydd Mercher.
Dyma ddolen i’r dudalen Facebook.
Mae David Walliams wedi cadarnhau y bydd yn rhyddhau stori sain yn rhad ac am ddim pob dydd yn ystod y 30 diwrnod nesaf i gadw plant yn ddiddan.
Amser Mathemateg? Mae Carol Vorderman yn cynnig gwersi mathemateg am ddim i blant rhwng 4 ac 11 oed tra bod ysgolion ar gau. Pan fyddwch chi’n dilyn y ddolen fe welwch chi fotwm i’ch caniatáu i ymuno am ddim.
Dyma ddolen i wersi mathemateg Carol.
Pob dydd am 11.30am yn ystod yr wythnos mae gan seren Strictly Come Dancing, Oti Mabuse, wersi dawns am ddim ar Facebook. Mae ganddi hefyd wersi i oedolion a theuluoedd am 7.30pm pob diwrnod.
Cewch hyd i dudalen Facebook Oti yma.
Mae gan Oti hefyd sesiynau dawns am ddim ar Youtube.
Gallwch wylio’r rhain yn rhad ac am ddim ar Youtube yma.
Ddydd Llun bydd Clwb Celf Plant Hobbycraft UK yn mynd yn fyw pob dydd, ac eithrio ddydd Sul, gyda gweithgareddau crefft i gadw’r rhai bach yn brysur – ond dw i’n siŵr y bydd llawer o’r gweithgareddau wrth fodd y “plant hŷn” hefyd!
Gallwch wylio’r clwb celf i blant yma.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19