Croesawyd beirniaid cystadleuaeth Prydain yn ei Blodau i Wrecsam heddiw fel rhan o’u taith i ddod o hyd i enillydd y gystadleuaeth ar gyfer 2024.
Galwodd y beirniaid mewn sawl lleoliad a gerddi gan gynnwys Amlosgfa Wrecsam, Canolfan Ailgylchu Wrecsam, Gardd Furiog Erlas, Ysgol Uwchradd Rhosnesni a Chanol Dinas Wrecsam.
Ac ni wnaeth Wrecsam siomi, gydag arddangosfeydd blodau rhagorol ar hyd y daith ac enghreifftiau o gyfranogiad y gymuned megis codi sbwriel a chystadlaethau garddio.
Roedd canol y ddinas ei hun yn fôr o liw ac arddangosfeydd blodau anhygoel, oedd yn cael eu hadlewyrchu ar hyd a lled y ddinas gyda beiciau wedi’u haddurno i nodi Taith Prydain i Ferched yn ddiweddar a beiciau wedi eu rhoi gan y Parêd Pedal Power a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Bydd y beiciau i gyd yn rhan o lwybr beiciau i blant ei ddilyn o gwmpas Canol y Ddinas fel rhan o’r dathliadau Prydain yn ei Blodau.
Fel cyffyrddiad arbennig iawn, plannwyd coeden hances boced yn Llwyn Isaf a elwir hefyd yn Llwyn y Golomen oherwydd ei blodau gwyn sy’n chwifio fel colomennod neu hancesi poced mewn chwa o wynt. Bydd y goeden yn tyfu’n goeden hardd a gwydn, fydd yn ychwanegu at weddill y coed sydd wedi hen sefydlu yng nghanol y ddinas.
Wrecsam yw’r ddinas sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau!
Dywedodd y Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Roedd yn bleser i groesawi’r beirniaid i Wrecsam. Does dim dwywaith bod pawb wedi gweithio’n hynod o galed i greu’r arddangosfeydd hyfryd ar hyd y llwybr a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu hymdrech wych ar ran Cymru gyfan a’r fwrdeistref sirol.
“Rydym yn falch iawn mai Wrecsam yw’r ddinas sy’n cynrychioli Cymru gyfan yn y gystadleuaeth Prydain yn ei Blodau.
“Y cyfan allwn ni ei wneud rŵan yw aros am y dyfarniad â’n bysedd wedi croesi, ond beth bynnag ddaw, mae Wrecsam yn sicr yn rhoi croeso hyfryd i breswylwyr ac ymwelwyr.” Cymerwch gip isod ar rai o’r arddangosfeydd anhygoel yng nghanol y ddinas
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Ymddiriedolaeth y Groes Fictoria yn ymweld â Wrecsam