Yn dilyn Diwrnod Hawliau Gofalwyr, gofynnom i ofalwyr ifanc yn Wrecsam am y gefnogaeth maen nhw’n ei chael gan Gofalwyr Ifanc WCD.
Mae WCD Young Carers yn credu bod pob gofalwr ifanc yn anhygoel ac maent yn eu hatgoffa nhw o hynny. Mae eu cefnogaeth wedi’i theilwra, yn cynnwys clybiau seibiant bob pythefnos i wahanol grwpiau oedran, teithiau a gweithgareddau dros wyliau’r ysgol, cefnogaeth un-i-un yn ystod amseroedd anodd, eiriolaeth a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion/colegau a’r gymuned hefyd.
Fe ddewch chi o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan WCD Young Carers.
Trawsgrifiad
Gofalwyr Ifanc 1: Dwi’n cael llwyth o wahanol fathau o gefnogaeth, maen nhw wedi fy helpu’n emosiynol drwy ddwy flynedd eithaf anodd.
Roeddwn i’n arfer cael sesiynau un i un i ddelio efo beth oedd yn digwydd, ond dwi hefyd yn helpu drwy wirfoddoli ac fe roddon nhw’r cyfle imi wneud beth roeddwn i eisiau ei wneud, achos mae gen i ddiddordeb mewn gofal plant beth bynnag ac fe hoffwn i fod yn weithiwr ieuenctid.
Maen nhw wedi cefnogi fy mhenderfyniad i a helpu pob cam o’r ffordd.
Gofalwyr Ifanc 2: Gofal seibiant ydi llawer ohono, mae pethau wedi newid ers pan oeddwn i’n iau, pan oedd o’n fater o fynd i grŵp, lliwio lluniau, cael sgwrs â phawb, ond erbyn heddiw mae’n ymwneud mwy â mynd ar dripiau, achos mi fyddai’n well gen i beidio eistedd yn llonydd a lliwio.
Rydw i newydd ddod yn ôl o Ddenmarc, a oedd yn lot o hwyl, achos mod i’n oedolyn ifanc sy’n gofalu erbyn hyn – ond dim ers rhyw lawer.
Sesiynau un i un ydyn nhw fel arfer – dwi’n gweithio’n unigol efo Lisa neu Leanne gan ei bod hi’n llawer haws siarad efo nhw ar eu pen eu hunain, yn lle rhannu newyddion ynghanol grŵp, a tydw i ddim yn mwynhau grwpiau cymaint â hynny mwyach.
Gofalwyr Ifanc 3: Maen nhw’n helpu’n bennaf drwy roi gwybod i bobl ei bod nhw’n ofalwyr ifanc, ond mi fyddai’n trio gwrando arnyn nhw bob amser a gneud fy ngorau.
Gofalwyr Ifanc 4: Maen nhw’n fy nghefnogi drwy roi cyfle imi gwrdd â phobl newydd – i fedru troi at bobl eraill sy’n mynd drwy’r un profiad â fi.
Maen nhw’n helpu pryd bynnag y gallant drwy ddarparu seibiannau byr.