Yn dilyn trafodaethau yn ystod y Bwrdd Gweithredol ynghylch defnydd posibl yn y dyfodol ar gyfer safle Ffordd Rhosddu lle’r oedd yr hen Ganolfan 67 yn flaenorol. Roedd y drafodaeth yn ceisio cytundeb i gomisiynu astudiaeth dichonolrwydd i ddangos defnydd posibl ar gyfer Rhosddu.
Mae’r safle ar yr un tir â Thai Gwarchod Springfield sydd yn cynnwys 41 eiddo ar y tir. Mae’r lleoliad yn agos at Ganol y Ddinas sydd â chysylltiadau cludiant cynaliadwy yn ôl ac ymlaen.
Mae’r Uwch Reolwyr sy’n gyfrifol am y gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda’r tîm Asedau i ystyried opsiynau ar gyfer datblygiad cyfleuster pwrpasol a fydd yn bodloni anghenion defnyddwyr gwasanaeth yn awr ac yn y dyfodol.
Rydym wedi dyrannu £9 miliwn o’r gyllideb Cyfrif Refeniw Tai gefnogi’r datblygiad hwn ar gyfer tai cymdeithasol sydd ei angen i fodloni’r galw cynyddol am dai newydd, a gobeithir bydd yr Astudiaeth Ddichonoldeb yn cael ei gynnal cyn diwedd yr haf. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn edrych ar bob agwedd ar y tir, a beth ellir ei gyflawni oddi fewn, un ai stoc dai yn unig neu’n ddefnydd cymysg.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithel, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Tai “Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau tai newydd ac rwyf yn falch iawn o gefnogi’r posibilrwydd o ddatblygiad newydd ar y safle. Byddwn yn awr yn cynnal adolygiad manwl o’r safle gyda’n dyheadau i roi Tai Cyngor ar y safle.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.