Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Erlyniadau yn rhybuddio yn erbyn anwybyddu Rhybuddion Gorfodi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Erlyniadau yn rhybuddio yn erbyn anwybyddu Rhybuddion Gorfodi
Pobl a lleY cyngor

Erlyniadau yn rhybuddio yn erbyn anwybyddu Rhybuddion Gorfodi

Diweddarwyd diwethaf: Mai 25, 2023 4:20 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Estyn
RHANNU

Cawsom ein hatgoffa nifer o weithiau eleni am bwysigrwydd dilyn rheolau cynllunio, wrth i dirfeddianwyr a phobl busnes leol gael dirwyon yn y llys am anwybyddu Rhybuddion Gorfodi.

Cynnwys
  • Beth yw Rhybuddion Gorfodi Cynllunio?
  • Felly beth sydd wedi digwydd yn Wrecsam?

Beth yw Rhybuddion Gorfodi Cynllunio?

Dogfennau cyfreithiol sy’n cael eu hanfon pan fydd datblygiad wedi digwydd heb ganiatâd cynllunio neu pan fydd datblygiad wedi digwydd sy’n gwyro oddi wrth y caniatâd cynllunio a roddwyd. Mae’n ofynnol i’r tor-amodau gael eu cywiro.

Felly beth sydd wedi digwydd yn Wrecsam?

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae miloedd o bunnau wedi cael eu talu mewn dirwyon a ffioedd gan dirfeddianwyr lleol.  Mae Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydymffurfio â rheolau cynllunio a Rhybuddion Gorfodi.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Gadewch i ni wybod.

Ymhlith y rhai a gafodd ddirwy, talodd tirfeddiannwr o Goed Llwyneinion gyfanswm o £744 ar ôl rhoi adeiladau ar dir heb ganiatâd a chreu mynediad ato o ffordd ddi-ddosbarth heb awdurdod.  Yng Nghoed Llannerch Banna, roedd busnes yn cael ei redeg o’r coetir a chyhoeddwyd Rhybuddion Gorfodi, ond ni chydymffurfiwyd â nhw, a chafodd perchennog y busnes orchymyn i dalu cyfanswm o £1160.

Rhoddwyd y ddirwy fwyaf i berchennog fferm yn Wrecsam ar ôl i ddarn o lawr caled gael ei osod heb ganiatâd cynllunio. Roedd y tirfeddiannwr hefyd yn cadw cerbydau heb fod yn rhai amaethyddol ar dir amaethyddol. Arweiniodd hyn at ddirwy o £2282.

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, y Cynghorydd Terry Evans:  “Rydym yn cymryd methu â chydymffurfio â rheolau cynllunio a Rhybuddion Gorfodi o ddifri.

“Dylai tirfeddianwyr weithio’n agos gyda’n Swyddogion Cynllunio cyn gwneud unrhyw waith datblygu i wneud yn siŵr eu bod yn aros o fewn y rheolau, sydd yno i amddiffyn y Fwrdeistref Sirol a’i phreswylwyr.”

Dywedodd David Fitzsimon, Prif Swyddog Cynllunio a’r Economi  yng Nghyngor Wrecsam: “Mae rheoliadau cynllunio yn helpu i amddiffyn yr amgylchedd a’n cymunedau ac rydym yn cymryd achosion o’u torri o ddifri. Ni fydd swyddogion yn oedi cyn cymryd camau gorfodi, gan gynnwys erlyn, pan fo’n briodol gwneud hynny.

“Byddwn yn argymell yn gryf bod tirfeddianwyr yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynllunio cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu. Gall y tîm eich cynghori os ydych chi’n ansicr ynghylch a oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect.”

Cewch fwy o wybodaeth ar wefan y cyngor.

Wedi gweld twll yn y ffordd? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Wrexham Mae cyngherddau amser cinio am ddim yn dychwelyd i Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Beth nesaf ar gyfer cyn safle Canolfan 67 yn Rhosddu?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English