Sul y Cofio – 10 Tachwedd
Bydd y Gwasanaeth Cofio blynyddol eleni’n cael ei gynnal ym Modhyfryd ddydd Sul, 10 Tachwedd ac yn dechrau am 10.55am.
Am 10.59am, bydd y biwglwr yn canu’r “Caniad Olaf” a chynhelir dau funud o dawelwch.
Estynnir gwahoddiad i chi ddod i’r digwyddiad teimladwy hwn i gofio’r rhai hynny a frwydrodd ac a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yr Ail Ryfel Byd, a’r holl ryfeloedd sydd wedi rhygnu ymlaen ers hynny.
Cynghorir y cyhoedd y bydd rhwystrau’n cael eu gosod am 10.30am yn y lleoliadau canlynol er mwyn i’r parêd allu pasio’n ddiogel ac i ddiogelu’r ardal o’i amgylch:
- Stryt Caer (ger hen dafarn y Feathers)
- Stryt Holt (ger tafarn y Welch Fusilier)
- Ffordd Caer (ger cylchfan Ffordd Caer/Ffordd Powell)
Bydd mynediad i Faes Parcio Bodhyfryd ger Byd Dŵr, felly, ar gael tan 10.30am yn unig.
Diwrnod y Cadoediad – 11 Tachwedd
Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei gofio ar ddydd Llun, 11 Tachwedd yn Llwyn Isaf y tu allan i Neuadd y Dref.
Fel arfer mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar Sgwâr y Frenhines ond oherwydd gwaith adeiladu ar y Sgwâr bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rownd y gornel yn Llwyn Isaf.
Bydd y seiren cyrch awyr yn cael ei chanu yng nghanol y ddinas am 11am.
Anogir aelodau’r cyhoedd i ddod i un gwasanaeth cofio neu i’r ddau.