Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Diweddarwyd diwethaf: Awst 21, 2026 12:32 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Car park
RHANNU

Dim ond ychydig ddyddiau sydd ar ôl cyn gêm gyntaf y tymor pêl-droed ar y Cae Ras, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynllunio eich taith.

Gall lleoedd parcio canol y ddinas lenwi’n eithaf cyflym ar ddiwrnodau gêm, ond mae yna ddigon o opsiynau fforddiadwy eraill i’ch cael i’r gêm.

Parcio a theithio

Parcio am ddim a dim ond £1 am docyn dwyffordd i’r stadiwm (50c i blant, ac am ddim os oes gennych bàs teithio consesiynol ar gyfer y rheini dros 60 oed) a chyda 143 o fannau parcio, mae digon o le.

Mae Arriva Gogledd-orllewin Lloegr a Chymru’n rhedeg pum bws cyn ac ar ôl y gêm, yn rhedeg bob 20 munud i Ffordd yr Wyddgrug, yn union y tu allan i’r cae.

Cymerwch gip ar y fideo isod i gael rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio.

Bysus Arriva ym Mharth Wrecsam

Os ydych chi’n prynu tocyn diwrnod ar gyfer oedolyn i gyrraedd y gêm, bydd yn costio £2 yn unig pan fyddwch chi’n dangos eich tocyn gêm – mae hynny’n arbed £3.60!

Nid oes angen poeni am gael lle parcio a gallwch hyd yn oed alw heibio i ganol y ddinas am ddiod neu bryd o fwyd wedyn heb orfod meddwl am ba mor hir sydd gennych ar ôl ar eich tocyn parcio. 

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae cynnydd parhaus yn nifer y cefnogwyr sy’n mynychu gemau cartref wedi rhoi pwysau ychwanegol ar barcio a’r rhwydwaith ffyrdd cyfagos ar ddiwrnodau gêm.

“Mae’r opsiynau teithio fforddiadwy hyn yn rhoi dewis arall cyfleus i gefnogwyr i yrru’n uniongyrchol i’r stadiwm, wrth hefyd helpu i leihau tagfeydd a pharcio diystyriol mewn ardaloedd preswyl cyfagos.

“Mae’r tocyn diwrnod Arriva £2 newydd yn ychwanegiad i’w groesawu y tymor hwn, ochr yn ochr â’n gwasanaeth parcio a theithio poblogaidd ar Ffordd Rhuthun. Rydym yn gobeithio y bydd cefnogwyr yn manteisio ar y cynigion hyn ac yn ein helpu i wneud diwrnodau gêm yn fwy diogel ac yn fwy pleserus i gefnogwyr a thrigolion fel ei gilydd.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Erthygl nesaf Red Ensign Flag Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
surgery to waterloo
Digwyddiadau

Cadwch y Dyddiad: 24 Medi

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English