Yn swyddogol, daw Wrecsam yn ddinas heddiw (dydd Iau 1 Medi) ar ôl ennill statws mawreddog trwy gystadleuaeth a oedd yn rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines Ei Mawrhydi.
Rhoddwyd yr anrhydedd yn gynharach eleni ac mae’r Breinlythyr swyddogol yn cadarnhau bod y statws dinesig yn dod i rym o 1 Medi 2022 ymlaen.
Wrecsam bellach yw’r seithfed ddinas swyddogol yng Nghymru, gan ymuno â Chaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Bangor, Tyddewi a Llanelwy. Cynhaliwyd y gystadleuaeth anrhydedd dinesig diwethaf 10 mlynedd yn ôl i nodi Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, pan gafodd Llanelwy ei anrhydeddu â’r statws.
Dywedodd Syr Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Llongyfarchiadau i Wrecsam ar ennill statws dinesig. Mae gan y ddinas a’r ardal gyfagos eisoes gymaint i’w gynnig – mae’n gartref i’r bragdy enwog “Wrexham Lager”, i Draphont Ddŵr Pontcysyllte ac i un o’r clybiau pêl-droed hynaf yn y byd.
“Mae gan Wrecsam llawer i fod yn falch ohono, ac mae ei dyfodol yr un mor gyffrous. Rwy’n gobeithio y bydd dinas Wrecsam yn parhau i ffynnu a thyfu.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Mae gennym ni gymaint i’w ddathlu yn Wrecsam. Mae gennym ni Safle Treftadaeth y Byd anhygoel, clwb pêl-droed â pherchnogion arbennig, a diwydiant celfyddydau a diwylliant cyfoethog ac amrywiol. Mae gennym gysylltiadau cryf â’n lluoedd arfog, ein busnesau o’r radd flaenaf a’n ffrindiau o bob cwr o’r byd.
“Ond ein hased mwyaf yw ein cymunedau, ac angerdd, cymeriad a chreadigrwydd anhygoel y bobl sy’n byw yma sy’n gwneud Wrecsam yn le mor arbennig.
“Mae statws dinesig yn llwyddiant ysgubol ac mae’n adlewyrchu’r hyder a’r uchelgeisiau sydd gennym yn Wrecsam. Hoffwn ddiolch i bawb a gefnogodd y cais uchelgeisiol am statws dinesig, gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau o’r Senedd, cynghorwyr etholedig, a’r holl fusnesau yn Wrecsam a thu hwnt.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Ei Mawrhydi y Frenhines am roi statws dinesig i Wrecsam. Rydyn ni wedi cael ein llongyfarch gan gefnogwyr a ffrindiau o bob cwr o’r byd, ac mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol dros ben.”
Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu cynnal mis o ddigwyddiadau ar benwythnosau drwy gydol mis Medi i ddathlu Wrecsam a’i llwyddiant.
Mae The Royston Club yn perfformio fel rhan o galendr o ddigwyddiadau prysur ym mis Medi