Mae Cyngor Wrecsam ar fin nodi lansiad Apêl y Pabi mewn cydweithrediad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol.
Bob blwyddyn, mae’r wlad yn ymgynnull i gofio’r aberth eithaf a roddodd dynion a menywod sydd wedi gwasanaethu, ddoe a heddiw, er mwyn i bob un ohonom ni fyw mewn heddwch. Yma yn Wrecsam, nid oes eithriad. Mae’r ddinas yn falch iawn o’i chysylltiadau milwrol a’r milwyr lleol sydd wedi gwasanaethu’n ddewr dros eu gwlad. Bob mis Hydref, mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dechrau ei Apêl y Pabi i godi arian i gefnogi personél sy’n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu a’u teuluoedd.
Dyddiad i’r dyddiadur
Eleni, bydd y lansiad yn cael ei gynnal y tu allan i Neuadd y Dref yn Wrecsam ddydd Sul 26 Hydref am 9 a.m. Bydd cyn-filwyr lleol yn ymuno ag aelodau o’r Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi’r achlysur. Yn dilyn hyn, bydd ein cyn-filwyr yn gorymdeithio ar draws Llwyn Isaf draw at gofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig am wasanaeth byr.
Dangoswch eich cefnogaeth
Gallwch gymryd rhan drwy brynu eich pabi i’w wisgo’n falch wrth gefnogi achos ardderchog hefyd. Yma yn Neuadd y Dref, bydd pabïau enfawr yn cael eu harddangos ar y balconi i gymryd rhan yn yr ymgyrch codi arian.
Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, “Bob blwyddyn, mae’r gefnogaeth y mae pobl Wrecsam yn ei dangos i Apêl y Pabi yn rhagorol. Mae’n amser i fyfyrio wrth i ni ddiolch a chofio’r rhai a roddodd yr aberth eithaf er mwyn i ni fyw mewn heddwch. Rwy’n falch, unwaith eto, o fod yn rhan o’r ymgyrch codi arian wych hon a does gen i ddim amheuaeth y bydd yn flwyddyn lwyddiannus arall i’r apêl”.
Mae yna lawer o ffyrdd eraill y gallwch chi gefnogi a chyfrannu at y Lleng Brydeinig Frenhinol. Am ragor o fanylion ac am ragor o wybodaeth am y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud, ewch i wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol.
Fe’u Cofiwn Hwy
Eleni, bydd y Gwasanaeth Cofio Blynyddol yn cael ei gynnal ddydd Sul 9 Tachwedd am 10.55 a.m. ym Modhyfryd. Mae gwahoddiad a chroeso i bawb fynychu wrth i ni ymgynnull i gofio. Bydd Diwrnod y Cadoediad yn cael ei arsylwi ddydd Mawrth 11 Tachwedd ar Sgwâr y Frenhines ac mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i fynychu hwn hefyd. Bydd y seiren cyrch awyr yn cael ei seinio ar draws canol y ddinas am 11 a.m.