Mae gan Wrecsam hanes milwrol balch ac rydym yn ei gofio bob blwyddyn wrth i ni ymgynnull ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad. Rydym yn treulio’r munudau hyn yn diolch i bawb sydd wedi ymladd ac sy’n dal i ymladd dros ein rhyddid.
Gyda chymorth ein gwasanaethau amgueddfa ac archifau, rydym wedi casglu cyfres o straeon am rai o arwyr Wrecsam.
Er gwaethaf y cadoediad
Er gwaethaf y cyhoeddiad bod y rhyfel wedi dod i ben, roedd yna lawer o deuluoedd a oedd eto i dderbyn newyddion drwg. Yn ôl adref, roedd llawer o bobl yn dal i aros yn bryderus i gael gwybod a oedd eu hanwyliaid wedi goroesi.
Roedd y Gynnwr Robert Charles o Ros-ddu wedi bod yn gwasanaethu dramor ers tair blynedd a hanner. Cymerodd ran yn holl ymgyrchoedd Affrica a’r Eidal. Roedd yn 35 oed ac yn fab i Mr a Mrs Edward Charles o Bonciau, yn ŵr i Mrs Lena Charles ac yn dad i Glenys Charles.
Roedd gan Charles ddau frawd hŷn a oedd hefyd yn gwasanaethu ym Myddin Rhyddhad Prydain, a brawd arall, Joseph, a oedd wedi’i ryddhau o’r fyddin ar sail feddygol.
Yn anffodus, ar ôl cyhoeddi’r cadoediad, derbyniodd gwraig Charles y newyddion ei fod wedi cael ei ladd yn yr Eidal o ganlyniad i ffrwydrad.
Yn druenus, ddyddiau ynghynt, derbyniodd lythyr gan ei gŵr lle roedd yn llawenhau bod y rhyfel yn dod i ben. Dywedodd wrthi sut roedd yn edrych ymlaen at ddod adref ati hi a’u merch fach.

Croeso cynnes adref
Cipiwyd y gyrrwr Thomas Davies o Holt gan yr Almaenwyr yn Ffrainc ym mis Mai 1940. Roedd yn casglu ei gyd-filwyr yn ei lori pan gafodd y cerbyd ergyd uniongyrchol gan danc y gelyn.
Llwyddodd i osgoi cael ei ddal trwy guddio drwy’r nos a’r diwrnod wedyn, daeth o hyd i filwyr y cynghreiriaid yn cuddio mewn cae. Fe wnaeth y gelyn eu hamgylchynu’n gyflym ac fe dorrodd brwydr rhyngddynt. Lladdwyd llawer o gyd-filwyr Thomas gan ynnau peiriant ac yna rhedodd eu bwledi allan.
Cafodd Thomas a’r goroeswyr eraill eu cymryd fel carcharorion, wedi’u gwasgu i mewn i lorïau gwartheg gyda 60 o ddynion. Ar ôl tri diwrnod o deithio, cyrhaeddon nhw Thorne yng Ngwlad Pwyl. Yma, rhoddwyd Thomas i weithio am 14 awr y dydd gyda bwyd gwael, a oedd hefyd yn brin.
Ar ôl bron i bum mlynedd mewn caethiwed, daeth milwyr Rwsia yn agosach at y gwersyll. Cafodd Thomas a’i ddynion eu cludo am 14 wythnos a phellter o dros 900 milltir tua’r gorllewin. Roedd y carcharorion yn byw ar datws amrwd a gasglwyd mewn caeau wrth iddynt gerdded a bu farw llawer yn ystod y daith.
Wrth i’r orymdaith agosáu at Hannover, gwelwyd awyrennau Prydeinig ac Americanaidd a saethu yn y pellter. Manteisiodd Thomas a dau arall ar y cyfle a thorri’n rhydd ac aethon nhw i guddio.
Ar ôl tri diwrnod o guddio, gan rannu meipen amrwd a ffon o riwbob rhyngddynt, fe welson nhw danc Americanaidd ar batrôl. Fe wnaeth y tri dyn, wedi’u trechu â blinder, ddefnyddio’r peth olaf o’u hegni a dringo ar y tanc i ddiogelwch.
Roedd y newyddion am ddychweliad diogel Thomas i Brydain wedi anfon tonnau o lawenydd trwy ei gymuned ac i’w fam a’i dad.
Roedd pentref Holt wedi’i orchuddio â baneri mewn ffenestri, gerddi a ffyrdd o amgylch y pentref.
Wrth i ffrindiau a chymdogion ymgynnull o amgylch ei gartref i’w gyfarch, fe wnaeth plant yn cario baneri gwrdd ag ef yng ngorsaf Wrecsam. Cafodd car Thomas ei stopio ar gyrion ei bentref gan y plant a glymodd raff i flaen ei gar a’i dynnu adref.
Wrth i’r arwr lleol fynd allan o’i gar, derbyniodd dri chymeradwyaeth ysgubol a chanodd y parti croeso yr emyn, “I Dad y trugareddau i gyd”.

Beth am weld a allwch chi ddod o hyd i straeon arwrol o’r rhyfel yn eich teulu? Mae gan ein gwasanaeth archifau ystafell chwilio newydd wedi’i lleoli yn llyfrgell Wrecsam. Mae ar agor yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Mercher.
Galwch heibio yn ystod eu horiau agor a gweld pwy allech chi ddod o hyd iddo yn eich coeden deulu.


