Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyfarnu statws Dinas Goed y Byd i Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg
Wrexham Social care academy
Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam
Busnes ac addysg Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dyfarnu statws Dinas Goed y Byd i Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol!
Y cyngorPobl a lle

Dyfarnu statws Dinas Goed y Byd i Wrecsam am yr ail flwyddyn yn olynol!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/07/25 at 2:14 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Tree Cities
RHANNU

Mae Wrecsam yn parhau i fod yn rhan o rwydwaith rhyngwladol o ddinasoedd sy’n ymroddedig i feithrin a hybu’r arferion gorau yn y byd wrth reoli coed trefol ar ôl derbyn Statws Dinas Goed y Byd.

Gwnaed y cyhoeddiad gan Arbor Day Foundation i gydnabod y modd yr ydym yn tyfu, gwarchod, a chynnal a chadw ein coedwig drefol yma ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Wrecsam yn ymuno â Chaerdydd a Chasnewydd fel yr unig ddinasoedd eraill yng Nghymru i gael yr anrhydedd hon, ac mae’n un o ddim ond 200 o ddinasoedd mewn 22 o wledydd ledled y byd!

“Mae coed yn bwysig i bobl, dim ots o ba wlad y mae rhywun yn dod neu’r iaith y maent yn ei siarad,” meddai Dan Lambe, prif weithredwr Arbor Day Foundation. “Rydym oll yn dymuno byw mewn dinas iach, gydnerth a phrydferth – mae coed yn rhywbeth cyffredin sy’n gallu cyflawni hynny. Mae cael eich cydnabod fel un o Ddinasoedd Coed y Byd yn golygu bod eich dinas chi’n ymrwymo i wneud mwy na’r arfer i ddynodi coed yn isadeiledd gwyrdd hanfodol ar gyfer y bobl.”

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, “Rydym wrth ein boddau bod dinas Wrecsam, unwaith eto, wedi ei chydnabod yn un o Ddinasoedd Coed y Byd. Rydym yn falch o ymuno â rhwydwaith byd-eang o ddinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i warchod a chynyddu eu stoc o goed a hyrwyddo eu gwerth drwy feithrin cyswllt â’r gymuned a rheoli eu hasedau’n dda.

“Drwy ein rhaglen plannu coed dros yr hydref a gaeaf diwethaf rydym wedi plannu mwy na 5,000 o goed ledled y sir. Mewn lleoliadau fel Bradle, Coedpoeth a Wrecsam, a chyda chymorth gwirfoddolwyr, rydym wedi plannu amrywiaeth o rywogaethau o goed – o farchwiail llydanddail cynhenid i goed safonol mawr, yn ogystal â nifer o berllannau ffrwythau. Mae hyn yn cyfrannu at ein huchelgais i gynyddu’r gorchudd coed ledled Wrecsam i 20%.”

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd, “Mae cael ein henwi’n un o Ddinasoedd Coed y Byd am yr ail dro yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymdrechion parhaus staff y Cyngor a chyfraniad hanfodol aelodau o’r cyhoedd mewn gwahanol gymunedau dros y ddeuddeng mis diwethaf. Mae plannu, gwarchod a rheoli coed yn hanfodol ar gyfer ein hiechyd a’n lles, ac ar gyfer yr economi leol.

 “Rydym, fel Cyngor, yn ddiolchgar iawn eto am yr anrhydedd hon, a byddwn yn dal i ymrwymo i blannu, gwarchod a gwella ein coed a’n coetir sydd gyda’i gilydd yn ffurfio coedwig drefol Wrecsam.”

Safonau cydnabod Dinasoedd Coed y Byd

Rydym wedi derbyn cydnabyddiaeth fel Dinas Goed gan Arbor Day Foundation yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen. I gael cydnabyddiaeth fel Dinas Goed, yr oedd yn rhaid i Wrecsam ddangos ei bod yn ymrwymo i gyflawni pump o safonau gofynnol:

  • pennu cyfrifoldeb dros ofalu am goed
  • llywodraethu’r drefn o reoli asedau a rheoli risg yng nghyswllt coedwigoedd, coetir a choed yn unol â Strategaeth Coed a Choetir gymeradwy a Pholisi Rheoli Coed
  • cadw rhestr gyfoes o’n hadnoddau coed a choetir lleol
  • neilltuo adnoddau i gyflawni ein strategaeth goed
  • cynnal digwyddiadau blynyddol i glodfori coed a’u buddion, er mwyn addysgu ysgolion a chymunedau.

Arbor Day Foundation yw’r gymdeithas ddielw fwyaf yn y byd sy’n ymwneud â phlannu coed. Mae’r Sefydliad Bwyd ac Amaeth yn un o asiantaethau arbenigol y Cenhedloedd Unedig sy’n arwain ymdrechion rhyngwladol i drechu newyn. Daeth y ddau sefydliad ynghyd yn 2019 i sefydlu Dinasoedd Coed y Byd. Mae’r rhaglen yn ymgyrch fyd-eang i gydnabod dinasoedd a threfi sy’n ymrwymo i sicrhau bod eu coedwigoedd a’u coed trefol yn cael eu cynnal a’u cadw’n iawn, eu rheoli’n gynaliadwy, a rhoi clod haeddiannol iddynt.

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Bydd cefnogwyr pêl-droed a pheillwyr yn cael cic allan o furlun ‘enfawr’ diweddaraf Wrecsam!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Bwletin arbed ynni 5: Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs Bwletin arbed ynni 5: Amnewid sbotoleuadau halogen gydag LEDs
Erthygl nesaf Young Influencers Dylanwadwyr Ifanc yn gadael argraff wrth helpu pobl ifanc ddigartref

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor Mawrth 2, 2026
St Anne's
Hapus, brwdfrydig a chefnogol – mae adroddiad Estyn am Ysgol Santes Anne wedi cyrraedd!
Busnes ac addysg Chwefror 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English