Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyn ysgol yn Wrecsam ar restr fer fel safle angor posib ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, a chafodd Cyngor Wrecsam £25,000 i ddatblygu’r cynnig ymhellach.
Mae’r cynnig manwl wedi’i gyflwyno bellach ac os bydd yn llwyddiannus, bydd yn sicrhau ailddefnyddio adeilad rhestredig amlwg, yn amodol ar gael y caniatâd angenrheidiol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn parhau i edrych ar opsiynau ar gyfer yr adeilad a’r safle, ac yn falch bod Groves ar y rhestr fer.
“Rydym wedi ceisio dod o hyd i ddefnydd ar gyfer y safle ac wedi bod mewn nifer o sefyllfaoedd addawol ond sydd wedi arwain at siomedigaeth. Roedd gennym ddyheadau o adeiladu ysgol y 21ain ganrif newydd yno, ond ni ddatblygodd unrhyw beth o hyn.
“Hefyd rydym wedi edrych ar opsiwn ar gyfer canolfan hyfforddiant meddygol, ond eto nid wnaeth dim ddigwydd. Felly rydym yn obeithiol yn awr y cawn ganlyniad mwy cadarnhaol.
“Mae Wrecsam eisoes yn ganolbwynt diwylliannol pwysig ac yn ddinas fwyaf newydd Cymru, felly mae’n gwneud synnwyr i edrych ar sut y gallwn o bosib cael oriel gelf newydd i Gymru.
“Byddai oriel genedlaethol yn cyd-fynd â’n safleoedd diwylliannol presennol megis Tŷ Pawb a’r amgueddfa bêl-droed a gynlluniwyd, a byddai’n ychwanegiad diwylliannol arwyddocaol i Ogledd Cymru.
“Hoffwn ddiolch i’n holl staff sydd wedi gweithio’n galed ar y cais am y cynnig hwn.”
Mae’r safle yn un o bum lleoliad sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr fer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.