Fe allai Prosiect Porth Wrecsam dderbyn hwb o £4.79 miliwn ar ôl cael gwahoddiad i ymuno â phortffolio Bargen Dwf Gogledd Cymru ar ôl i aelodau o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru gefnogi argymhelliad i wahodd pum prosiect newydd.
Yn ddibynnol ar gytuno ar amodau penodol, bydd pob prosiect bellach yn symud ymlaen i lunio achos busnes amlinellol.
Beth yw Prosiect Porth Wrecsam?
Mae Prosiect Porth Wrecsam yn anelu i adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd cludiant o amgylch Ffordd Yr Wyddgrug – coridor allweddol i mewn i’r ddinas.
Mae’n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras fydd yn caniatáu i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i Ogledd Cymru.
Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1biliwn yn y rhanbarth, mae £240m ohono wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae prosiectau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y rownd ddiweddaraf wedi cael dyraniad dros dro o gyllid cyfalaf y Fargen Dwf yn amodol ar gymeradwyaeth eu hachos busnes.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru am eu cefnogaeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffynonellau buddsoddiad ar gyfer y rhaglen waith uchelgeisiol yma ac rydym ni bellach fymryn yn nes at gyrraedd ein nod.
“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r llwyddiant hyd yn hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae hi bendant yn amser cyffrous i Wrecsam ac mae gan y cynlluniau sydd gennym ni a’n partneriaid y posibilrwydd o drawsnewid y Porth i Wrecsam. Fe fydd hyn hefyd yn golygu hwb tuag at gyflogaeth a sgiliau i gymunedau lleol.
“Rydym ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i lunio cynllun busnes amlinellol a fydd yn dangos sut fydd y prosiect yn cael ei ddarparu’n gynaliadwy ac o fewn y gyllideb.”
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cynghorwyr yn ystyried pecyn newydd i ariannu rhannau allweddol o brosiect Porth Wrecsam, gan gynnwys Kop newydd
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch