Yn ddi-os, mae’n gyfnod cyffrous i fusnesau lletygarwch Wrecsam gyda’r addewid o fwy o dwristiaid o dramor a diddordeb o’r newydd yn y ddinas, yn bennaf oherwydd llwyddiant ysgubol y gyfres ddogfen Welcome to Wrexham.
Yn ddiweddar, bu’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, yn siarad gyda nifer o gwmnïau twristiaeth ar draws y fwrdeistref sirol, er mwyn dangos cefnogaeth barhaus yr Awdurdod a cheisio’u barn cyn yr hyn sy’n argoeli i fod yn dymor ymwelwyr prysur.
Ar Gae Ras Bangor Is-y-Coed, roedd y cyfarwyddwr marchnata, Nicola Myers a rheolwr y cae, Paddy Chesters, yn edrych ymlaen at dymor prysur o rasys a oedd o’u blaenau, gan fod Bangor yn cynnig amgylchedd rasio mwy hamddenol a rhaglen o weithgareddau i’r teulu dros yr haf. Cynhelir 13 o gemau rasio cyffrous yn ystod 2024, ac mae’r cyfleusterau cyfarfod a chynadledda yn parhau i fynd o nerth i nerth, gan gynnig rhai o’r mannau mwyaf a mwyaf modern yn yr ardal ar ddiwrnodau lle nad oes rasys.
Siaradodd Chris Davies o Gaffi Wylfa yn y Waun am ei obeithion ar gyfer y tymor i ddod a phoblogrwydd cynyddol y Waun. Meddai Chris, “Mae’n debyg ein bod ni newydd weld ein blwyddyn brysuraf erioed yma yng Nghaffi Wylfa, diolch i’r gymuned leol ac ymwelwyr â’r Safle Treftadaeth y Byd cyfagos, yn arbennig grwpiau cerdded a beicio, cyn iddynt gychwyn ar hyd y gamlas neu Ddyffryn Ceiriog.
“Y tu ôl i’r llenni dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn addasu ein busnes, er mwyn sicrhau ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned leol, ac nid twristiaid yn unig. Mae gwneud newidiadau wedi bod yn rhan fawr o’n bywydau ers y pandemig ac wrth lwc rydym wedi bod yn llwyddiannus hyd yma, gyda gwasanaethau danfon i’r cartref, mwy o offer cegin effeithlon a chreu man awyr agored mwy – ac mae hyn oll wedi arwain at fwy o ymwelwyr a chwsmeriaid yn ailymweld, sy’n hynod bwysig i ni.”
“Wrecsam yw’r lle i fuddsoddi”
Yn dilyn yr ymweliadau, ychwanegodd y Cynghorydd Williams, “Mae ymgysylltu’n barhaus â’n sector lletygarwch a deall y materion y maent yn eu hwynebu gyda’r sefyllfa economaidd heriol bresennol i fusnesau, wedi bod yn rhan hanfodol o’m rôl i. Byddaf yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru ynghylch yr holl bryderon y maent yn tynnu fy sylw atynt.”
“Rydym yn rhannu’r neges ledled y byd, mai Wrecsam yw’r lle i fuddsoddi a bod yma ddiddordeb brwd mewn cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae’n bwysig bod busnesau lletygarwch yn gwybod fy mod i, ein tîm busnes a’n partneriaeth leol, Dyma Wrecsam, yma i’w cefnogi a’u helpu i ddatrys unrhyw faterion, fel bod modd iddynt ganolbwyntio ar yr hyn y maent yn wych am ei wneud – sef cynnig profiad ardderchog i gwsmeriaid!”
Y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, Joe Bickerton, Rheolwr Twristiaeth Cyngor Wrecsam a Paddy Chesters, Rheolwr y Cae – Rasys Bangor Is-y-Coed.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Bydd buddsoddiad gwerth sawl miliwn yn troi Hen Lyfrgell Wrecsam mewn i bwerdy diwydiannau creadigol