Mae cyfrinachau hanesyddol Marchnad Gigyddion Wrecsam wedi cael eu datgelu yn ystod prosiect adfywio sylweddol – a bydd rhai nodweddion gwreiddiol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith ailwampio.
Dechreuwyd y gwaith o ailwampio’r ddau adeilad yn yr haf, gyda SWG Construction yn arwain y prosiect ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywedodd Josh Coleman, Cyfarwyddwr Masnachol SWG Construction, fod y gwaith yn mynd yn dda, a bod nifer o nodweddion diddorol wedi cael eu datgelu.
“Rydym wedi bod yn gwneud cynnydd da, ac mae’r gwaith mecanyddol a thrydanol bron â chael eu cwblhau ym Marchnad y Cigyddion, ynghyd â’r gwaith o osod waliau styd a nenfydau newydd ar gyfer y stondinau” meddai.
“Mae pibellau a systemau draenio dan ddaear wedi cael eu gosod yn barod i wasanaethu’r stondinau marchnad newydd, yn ogystal â sgaffaldiau er mwyn atgyweirio’r cerrig a’r simnai.
“Yn ystod gwaith cloddio ym Marchnad y Cigyddion, darganfu’r archeolegwyr wal a gafodd ei gofnodi cyn ôl-lenwi, yn ogystal â blaen hen siopau hanesyddol amrywiol a oedd wedi cael eu gorchuddio.
“Mae’r rhain bellach yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o ailwampio blaen y siopau newydd. Mae grisiau cerrig gwreiddiol hefyd wedi cael eu dadelfennu yn arwain i’r ystafell fawog ar y llawr cyntaf. Bydd y nodweddion hyn yn cael eu gadael a bydd modd eu gweld unwaith y bydd y farchnad yn ailagor.”
Ychwanegodd: “Mae estyll y stondinau ym Marchnad y Cigyddion yn cael eu gosod ar hyn o bryd a bydd y waliau a’r nenfydau’n cael eu plastro yn yr wythnosau nesaf. Mae seiri maen arbenigol yn atgyweirio’r wyneb a’r simnai ar ddrychiad y Stryt Fawr.
“Yn y Farchnad Gyffredinol, rydym bellach yn addurno ac yn gosod estyll dur a phren. Mae pethau wir yn dechrau siapio a bydd y marchnadoedd yn edrych yn wych pan fyddant yn ailagor.”
Mae’r marchnadoedd yn rhan hanfodol o orffennol a phresennol Wrecsam
Meddai’r Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adferiad Cyngor Wrecsam: “Mae Wrecsam ar frig y don ar hyn o bryd diolch i gynnydd yn ei phroffil byd-eang, ac yn croesawu mwy a mwy o ymwelwyr o bob cwr o’r byd. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r ddinas.
“Felly, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i feithrin a buddsoddi yn y lleoliadau pwysig hyn yng nghanol y dref. Mae’r marchnadoedd yn rhan hanfodol o orffennol a phresennol Wrecsam, a byddant yn parhau i fod yr un mor bwysig i’r dyfodol.
“Mae SWG Construction yn gwneud cynnydd da â’r gwaith ailwampio, ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect yn cael ei gwblhau’n nes ymlaen eleni.”
Mae’r adeiladau Gradd II y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion yn cael eu hailwampio fel rhan o Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam a gaiff ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru – Cronfa Trawsnewid Trefi, a Rhaglen Gyfalaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cefnogwch fusnesau Wrecsam gydag ap newydd!








Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch





