Cwblhaom Safon Ansawdd Tai Cymru yn 2019, a derbyniodd ein tenantiaid tai geginau ac ystafelloedd ymolchi newydd ar draws yr 11,200 eiddo sydd gennym yn Wrecsam – OND nid dyna oedd diwedd y daith! Fel rhan o’r strategaeth eiddo gwag, manteisiom ar y cyfle i godi’r bar yn y maes ansawdd a safonau tai.
Rydym wedi ystyried eu hanghenon, gan eu cymharu gyda’r farchnad dai breifat, y deunyddiau newydd diweddaraf a dulliau gwaith yn y diwydiant adeiladu. Ynghyd â safon ansawdd o’r radd flaenaf a thimau cyflenwi, rydym yn darparu eiddo eithriadol i’n tenantiaid.
Rydym bellach wedi dechrau ar strategaeth hirdymor i wella ein stoc tai, a fydd yn gweld ein heiddo yn cyrraedd lefel sydd y tu hwnt i unrhyw awdurdod lleol arall.
“Addurniadau o ansawdd uchel drwyddi draw”
Mae gwaith arferol ar eiddo gwag bellach yn cynnwys, ail-blastro waliau a nenfydau’n llawn, ceginau newydd, ystafelloedd ymolchi, ffensys, tirlunio ac addurniadau o ansawdd uchel drwyddi draw.
Nod y strategaeth wella hirdymor hon yw cynnig cartrefi o ansawdd uchel, lleihau’r angen am waith trwsio, a darparu cartref i’n tenantiaid y gallant fod yn falch ohono.
Hyd yma, rydym wedi adnewyddu dros 1000 eiddo, ac mae’r ymateb gan denantiaid wedi bod yn anhygoel:
“Mae’n brydferth!”
“Fedra i ddim credu’r gwahaniaeth o’i gymharu â fy hen eiddo!”
“Mae fel symud i gartref arddangos.”
“Fysech chi byth yn meddwl mai eiddo’r Cyngor yw hwn.”
“You would never think this was a Council property.”
“Dyma mae ein tenantiaid yn ei haeddu”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Mae hyn yn newyddion gwych ac mae’n dda gwybod ein bod yn rhagori ar Safon Ansawdd Tai Cymru a dyma mae ein tenantiaid yn ei haeddu. Byddwn yn parhau â’r gwaith hwn yn 2020 er mwyn gwella’r stoc tai a sicrhau fod y safon yn parhau i fod yn uchel.”
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN