Cynhelir Wythnos Ailgylchu 2022 rhwng 17 a 23 Hydref, a’i nod yw ateb eich cwestiynau am ailgylchu er mwyn i ni oll allu ailgylchu’n well gyda’n gilydd. Drwy wneud hynny, gallwn helpu Cymru yn ein hymdrech barhaus i fod yn ailgylchwyr gorau’r byd (ni yw’r trydydd ar hyn o bryd).
Yr Wythnos Ailgylchu yw’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, a chaiff ei chyflwyno yng Nghymru gan Cymru yn Ailgylchu.
“Rhowch yr holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym wrth ein boddau unwaith eto i fod yn cefnogi’r Wythnos Ailgylchu. Eleni, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar un o’r rhwystrau mwyaf i bobl o ran ailgylchu, sef y dryswch ynglŷn â’r eitemau y gellir ac na ellir eu hailgylchu. Mae’n bwysig rhoi’r holl wybodaeth y maen nhw ei hangen i bobl er mwyn iddyn nhw allu ailgylchu’n gywir ac yn hyderus. Byddwn yn rhannu gwybodaeth am ailgylchu drwy gydol yr wythnos, ac mae Cymru yn Ailgylchu hefyd wedi creu gwefan, sef WythnosAilgylchu.org.uk, y gall pobl ei defnyddio i gael atebion i’w cwestiynau am ailgylchu.”
Peidiwch â ‘gobaith-gylchu’
‘Gobaith-gylchu’ yw’r weithred o roi rhywbeth yn y bin ailgylchu gyda’r gobaith y caiff ei ailgylchu, hyd yn oed os nad oes llawer o dystiolaeth i gadarnhau’r dyb hon. Yn anochel, mae hyn yn arwain at halogi, felly mae’n bwysig iawn nad ydych chi’n gwneud hyn.
Oes yna un eitem nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud gyda hi? Ewch draw i WythnosAilgylchu.org.uk i gael yr ateb i’ch cwestiwn 🙂
#Wrecsgylchu20
Byddwn yn cydweithio â sawl Eco-gyngor mewn ysgolion yn Wrecsam dros y misoedd nesaf wrth i ni barhau i ddathlu 20 mlynedd o wasanaeth ailgylchu ymyl palmant yn Wrecsam.
Rydym yn gosod ugain o heriau i ddathlu #Wrecsgylchu20! Os ydych chi’n athro neu’n athrawes ac mae gan eich ysgol chi ddiddordeb mewn ymuno â’r her hon, dydi hi ddim yn rhy hwyr i chi wneud hynny. Gallwch gofrestru eich diddordeb drwy anfon neges e-bost i Wrexcycle20@wrexham.gov.uk
Bydd yr heriau’n ymwneud â themâu sy’n cynnwys plastigau untro, ailgylchu, compostio ac eco-lapio.
Y wybodaeth ddiweddaraf
Byddwn yn rhannu awgrymiadau ailgylchu ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr wythnos, a gallwch ddilyn yr hashnod #WythnosAilgylchu i gymryd rhan.
Gallwch ddod o hyd i ni ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd
Cymerwch ran yn ein harolwg