Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal ein Hwythnos Cysylltiadau Coetir gyntaf, o 17 – 24 Mehefin. Gyda chefnogaeth Cronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw, byddwn yn dathlu’r holl ffyrdd y mae coed a choetiroedd yn bwysig i ni, gyda digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled y sir, gan ddechrau gyda Pharti Coed Parc Acton, 17 Mehefin 12-4pm; gŵyl goetir addas i’r teulu cyfan sy’n mynd at ‘wraidd’ pam fod coed yn bwysig.
Dywedodd Clare Morgan, Rheolwr Estyn Allan Coed Cadw Cymru: “Rydym wrth ein boddau ein bod wedi dyfarnu cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy’r Gronfa Argyfwng Coed i ariannu eu prosiect Cysylltiadau Coetir, sydd â’r nod o blannu tua 4,000 o goed i gynyddu gorchudd canopi’r ardal. Bydd y cyllid o gymorth i’r cyngor wrth gyflawni Strategaeth uchelgeisiol Coed a Choetiroedd, gan sicrhau nad coed a choetiroedd newydd sy’n cael eu creu yn unig, ond bod coed a choetiroedd presennol yn cael eu rheoli a’u gwarchod yn dda. Bydd y prosiect yn darparu ar gyfer pobl hefyd, drwy ymgysylltu â chymunedau a meithrin eu cysylltiad gyda choetiroedd a natur yn gyffredinol.”
Mae Cronfa Argyfwng Coed, Coed Cadw yn cael ei gefnogi gan Gronfa ‘Right Now Climate’ Amazon, sydd â gwerth o $100 miliwn. Gyda €20 miliwn wedi’i ymrwymo i brosiectau ar draws y DU ac Ewrop, mae’r gronfa wedi cael ei sefydlu i gadw, adfer a gwella coedwigoedd, gwlypdiroedd a glaswelltiroedd, sy’n diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt, bioamrywiaeth ac ansawdd bywyd cymunedau.
Mae gan Barti Coed Parc Acton, Wrecsam ystod eang o weithgareddau i gymryd rhan ynddynt; o goginio ar dân gwersyll i weithdai adrodd straeon. Treuliwch amser yn ymlacio yn ein hamogau, neu os ydych chi’n teimlo’n fwy egnïol, ewch am dro o amgylch ein llwybr coed hynafol. Rydym am ddangos i bobl, nid yw coetiroedd ar gyfer bywyd gwyllt yn unig; maent yn chwarae rôl bwysig mewn cefnogi iechyd a lles, ac mae cael mynediad at natur, yn enwedig mewn ardaloedd trefol, yn hollbwysig ar gyfer cynnal ffordd iach o fyw.’
Mae ffynonellau di-ri o dystiolaeth sy’n profi fod presenoldeb mewn coetir yn lleihau straen a gorbryder, gwella iechyd corfforol drwy ymarfer corff, a gwella ansawdd bywyd drwy lefelau gwell o ansawdd aer, llai o berygl o lifogydd a chadernid y pridd. Yn bwysicach, rydym yn wynebu hinsawdd newidiol, bydd coed a choetiroedd yn helpu wrth reoli allyriadau carbon, yn ogystal â helpu i reoleiddio tymereddau, yn enwedig mewn ardaloedd dinesig. Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn rhoi cyfle i chi ganfod ac archwilio hyn i gyd, yn ogystal â’r dreftadaeth gyfoethog, amrywiol sy’n rhannu ein tiroedd.
Mae Wythnos Cysylltiadau Coetir yn parhau gyda sawl digwyddiad canol wythnos i gymryd rhan ynddynt:
Dydd Llun 19 Mehefin, 10am tan 2pm | Gardd Gaerog Fictoraidd Erlas – cymerwch daith yn ôl mewn amser gydag ymweliad i safle Erlas, gyda’r goeden ferwydden anhygoel a’i amgylchedd unigryw. Teithiau tywys bob awr (10am, 11am, 12pm, 1pm) | Gardd Gaerog Fictoraidd Erlas, Ffordd Bryn Estyn Wrecsam LL139TY | Lluniaeth ar gael. |
Dydd Mawrth, 20 Mehefin | |||
Dydd Mercher, 21 Mehefin 5.30-8.30pm | Taith Natur Heuldro’r Haf Dathlwch ddiwrnod hiraf y flwyddyn gyda thaith dywys o amgylch Parc Gwledig Tŷ Mawr i edrych ar goed brodorol a bywyd gwyllt gyda James Kendall o’r Dosbarth Coetir. Bydd y daith yn gorffen gyda wasael yr haf yn dathlu’r berllan newydd gyda seremoni addas i deuluoedd, yn gwneud coron ddail a mwynhau sudd afal sbeislyd cynnes o amgylch tân wrth i’r haul ddechrau machlud. Croeso i bawb o bob oed | Parc Gwledig Tŷ Mawr Lôn Cae Gwilym Cefn Mawr Wrecsam LL14 3PE | |
Dydd Iau, 22 Mehefin | |||
Dydd Gwener, 23 Mehefin 10-12pm | Llwybr Coed yng Nghanol y Ddinas- Ymunwch â ni am daith dywys i ddysgu am y coed hardd sy’n rhannu canol ein dinas, a pham eu bod yn bwysig ar gyfer ein dyfodol. | Llyfrgell Wrecsam, Ffordd Caer, Wrecsam, LL11 1WS |
Dewiswyd lleoliadau ledled y sir am eu nodweddion arbennig, a’r rolau maent yn chwarae yn Wrecsam. Roedd Gardd Furiog Fictoraidd Erlas yn ganolbwynt ar gyfer Fy Nghoeden, Ein Coedwig, menter gan Lywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod plannu’r tymor diwethaf, ond mae’n gartref i Forwydden hynafol hefyd. Ymunwch â warden Erlas ar daith drwy amser, gan dreulio amser yng ngerddi’r amgylchedd unigryw hwn, i ddysgu am sut all pobl a bywyd gwyllt gydweithio’n agos.
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn darparu cefndir dramatig i ddathlu Heuldro’r Haf yn ein perllan newydd, a blannwyd yn ddiweddar. Plannwyd 100 o goed gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo, a cheidwaid y parc gwledig llynedd, gan greu cynefin hollbwysig ar gyfer bywyd gwyllt ac asedau lleol ar gyfer cymunedau. Gall coed a choetiroedd gynnig ffynhonnell eang o fwyd i bobl, o berllannau wedi’u rheoli, i fforio gwyllt. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein hymdrechion plannu coed yn cydnabod y rôl bwysig y gall hyn ei gynnig wrth gefnogi prosiectau tyfu cymunedau.
Bydd Wythnos Cysylltiadau Coetiroedd yn dod i ben gyda thaith dywys o amgylch Canol Tref Wrecsam, gan archwilio’r daith goed ddinesig, a thrafod sut gall coed a choetiroedd gefnogi amgylchedd dinesig mewn hinsawdd newidiol. Bydd y daith hon yn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i goed canol y ddinas, yn ogystal ag arddangos rhai o’r ffyrdd rydym yn gwarchod ein coed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Gallwch ddysgu rhagor am Wythnos Cysylltiadau Coetiroedd drwy ddilyn ein tudalennau Facebook a Twitter, lle bydd rhagor o fanylion am ddigwyddiadau’r wythnos yn cael eu rhannu. Gallwch gefnogi’r prosiect yn bersonol drwy gofrestru ar gyfer ein haddewid coetir a rhannu pam fod coed yn bwysig i chi.
Chwilio ar Facebook a Twitter: Addewid Coetir Wrecsam/ Wrexham Woodland Pledge