Yr wythnos hon bydd PUMP o wahanol farchnadoedd cynhwysion crefftus a chrefftau Nadolig yng nghanol dinas Wrecsam!
Mae newydd-ddyfodiad yn ogystal â’r hen ffefrynnau yn rhan o’r farchnad wych hon.
- Marchnad Fictoraidd, 7 Rhagfyr
- Coleg Cambria, Marchnad Nadolig, 6-8 Rhagfyr
- Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig, Tŷ Pawb, 10 Rhagfyr
- Marchnad Stryd Wrecsam, Stryt Henblas, 10 Rhagfyr
- Gŵyl y Gaeaf a Marchnad Nadolig Wrecsam, Sgwâr y Frenhines, 10-11 Rhagfyr
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys cerddoriaeth ac adloniant fyw, mins peis a gwin cynnes a llwyth o gynnyrch gan grefftwyr medrus.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Hoffwn ddiolch i’r holl sefydliadau sydd wedi helpu i ddod â’r marchnadoedd hyn i Wrecsam. Maen nhw’n dod ag ymdeimlad Nadoligaidd i ganol y ddinas gyda’r gobaith y bydd miloedd o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r dathliadau gan dreulio amser mewn siopau a llefydd lletygarwch lleol hefyd.”
Mae Mandy Hughes, y ‘Doolallylady’ yn edrych ymlaen at osod ei stondin: “Mae’n wych siarad gydag aelodau’r cyhoedd, yn enwedig cyd-grefftwyr. Mae awyrgylch gyfeillgar go iawn a dwi’n gwerthfawrogi yn ofnadwy pan fydd pobl yn prynu’r crefftau dwi ‘di greu gyda llaw, mae’n teimlo fel bod rhan ohona i yng nghartrefi ar hyd a lled Wrecsam!”
Meddai ei merch, Heidi o Heidi Lou Jewellery: “Dwi wrth fy modd yn gweld ein dinas mor brysur, mae’n dod â phobl ynghyd. Mae gan y Farchnad Stryd ymdeimlad teuluol go iawn gyda chyfeillgarwch hyfryd ymysg y stondinwyr. Mae’n wych cael Right Stuff Catering a’i bwyd stryd Jamaicaidd.”
Os byddwch yn ymweld ag un (neu bob un) o’r marchnadoedd wythnos nesaf gwnewch yn siŵr i alw yn siopau, tafarndai a chaffis Wrecsam yn ogystal â’n marchnadoedd parhaol i ddod o hyd i fwy o syniadau am anrhegion a chynigion tymhorol!
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI