Mae’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos hon, amser i dynnu sylw at droseddau casineb, annog dioddefwyr i hysbysu am droseddau ac i rwystro cyflawnwyr.
Mae partneriaid ledled y rhanbarth yn cynnwys awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a Cymorth i Ddioddefwyr yn gweithio gyda’i gilydd i amlygu materion troseddau casineb a hyrwyddo pwysigrwydd hysbysu’r Heddlu a Cymorth i Ddioddefwyr a’r dulliau o wneud hynny. Mae trosedd casineb yn golygu unrhyw drosedd a dargedir at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag at yr unigolyn hwnnw.
Gall y troseddau hyn gael eu hysgogi gan anabledd rhywun, ei hil neu ei ethnigrwydd, ei grefydd neu ei gred, ei gyfeiriadedd rhywiol neu ei statws trawsryweddol. Gall y trosedd amlygu ei hun mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys cam-drin geiriol, graffiti difrïol, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiadau, seiberfwlio, negeseuon testun, negeseuon e-bost neu alwadau ffôn sarhaus.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Meddai un o Gynghorwyr Wrecsam, y Cyngh. Hugh Jones YH, Dirprwy Arweinydd a Chadeirydd Bwrdd Cymunedau Diogelach Gogledd Cymru, ‘Mae Troseddau Casineb yn anghywir. Maent yn difetha bywydau ac yn ynysu unigolion a chymunedau diamddiffyn. Gwyddom fod y troseddau hyn yn digwydd ond mae’n dal i fod yn wir bod nifer sylweddol o achosion yn digwydd heb i bobl hysbysu amdanynt. Rydym am i bobl hysbysu am yr holl Ddigwyddiadau Casineb fel bod cyflawnwyr yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, bod dioddefwyr yn cael cymorth ac er mwyn i ni allu defnyddio’r wybodaeth i adnabod mannau lle mae hyn yn broblem ac atal y broblem rhag gwaethygu. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig iawn yma ac rwy’n hyderus, trwy weithio mewn partneriaeth, y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn’.
Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi dioddef trosedd casineb yna mae nifer o ffyrdd y gallwch hysbysu yn ei gylch:
• Ffonio’r Heddlu yn uniongyrchol gan ddeialu 999 os ydych mewn perygl uniongyrchol, neu 101 ar gyfer achosion di-frys neu gwblhau ffurflen hysbysu ar-lein Heddlu Gogledd Cymru sydd i’w chael yma https://www.north-wales.police.uk/advice-and-support/stay-safe/hate-crime
• Ffonio: 0300 30 31 982 i gysylltu’n uniongyrchol â Cymorth i Ddioddefwyr. Mae galwadau’n cael eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych opsiwn i aros yn ddienw.
• Yn ogystal, gallwch hysbysu ar-lein yn yma
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI