Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr gofal cymdeithasol nodedig.
Mae’r gwobrau, sy’n cael eu trefnu gan Ofal Cymdeithasol Cymru, yn cydnabod gwaith rhagorol sy’n digwydd ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru ac mae’n gyfle i dynnu sylw at arfer gorau ar gyfer rhannu yn y diwydiant. Mae’r Gwobrau’n agored i dimau a sefydliadau o’r sectorau cyhoeddus, gwirfoddol ac annibynnol. Maent yn adnabod mentrau sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl, yn cefnogi datblygu staff ac yn annog gwelliant i wasanaethau.
Mae’r Bwrdd ar y rhestr fer yn y categori Dulliau Effeithiol o ddiogelu ar gyfer ei fenter protocol hunan- esgeulustod. Datblygwyd hyn i atal anaf difrifol neu hyd yn oed farwolaeth pobl sy’n ymddangos yn hunan-esgeuluso, gan gefnogi eu hawl i gael eu trin â pharch ac urddas a “helpu i gydnabod sefyllfaoedd hunan-esgeulustod”.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Bydd y Bwrdd yn cystadlu yn erbyn Gwasanaethau Plant Casnewydd a Barnado’s, yn ogystal â Chyngor Sir Penfro yn y seremoni wobrwyo.
Dywedodd Neil Ayling, Prif Swyddog- Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, sy’n Gadeirydd Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru: “Mae’n anrhydedd bod y gwaith hynod dda sy’n digwydd yn ein rhanbarth gan weithwyr gofal cymdeithasol ac iechyd proffesiynol yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Beth bynnag yw’r canlyniad, rydym yn falch o’r gwaith yr ydym wedi’i wneud o gwmpas y mater pwysig iawn hwn ac yn mawr obeithio y bydd y gwaith a wnaethom yn cael effaith gadarnhaol ar ein trigolion “.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Iau, Medi 13eg.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION