Mae sefydliadau yn Wrecsam yn cael eu gwahodd i ymgeisio am grantiau fel rhan o gam diweddaraf rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer £50k hyd at £700k ar draws pob maes blaenoriaeth CFfG, gan gynnwys…
Cymunedau a Lle
Grantiau ar gyfer prosiectau sy’n cryfhau balchder lleol (gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau), yn cefnogi cyfleusterau lleol a mannau agored, ac yn gwella diogelwch cymunedol.
Cefnogi Busnesau Lleol
Grantiau i helpu busnesau lleol i gychwyn, ehangu neu gynyddu perfformiad.
Pobl a Sgiliau
Grantiau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg, cyflogaeth a TG.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor yr wythnos nesaf (o hanner dydd ar ddydd Llun, 17 Chwefror) ar gyfer sefydliadau, grwpiau a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym am i grwpiau a sefydliadau lleol fanteisio ar y cyfle gwych hwn, ac ystyried gwneud cais am grant.
“Os ydych chi’n gweithio ar brosiect a fydd yn helpu i gynyddu balchder a chyfleoedd bywyd lleol yn y fwrdeistref sirol, cymerwch gip – gallai hyn fod yn gyfle i sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch.
“Rydyn ni hefyd eisiau i fusnesau lleol wneud yn fawr o’r cyfle hwn… i’w helpu i dyfu a chystadlu. Mae cefnogi cyflogwyr lleol yn hynod bwysig, ac nid ydym am weld unrhyw un yn colli’r cyfle.”
Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Cyngor Wrecsam.
Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer gweminar ddydd Mawrth, 18 Chwefror am 12.30pm. Anfonwch e-bost at dîm CFfG y cyngor i gadw lle.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.
Ers ei chyflwyno yn 2023, mae Wrecsam wedi elwa ar dros £22 miliwn o arian grant i gefnogi mentrau lleol.
Daw’r rownd ddiweddaraf o grantiau o gronfa 2025-26 Wrecsam o gyllid CFfG, sy’n gyfanswm o dros £7.6 miliwn.