Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor yn fuan – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor yn fuan – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k
Pobl a lle

Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor yn fuan – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 18, 2025 10:58 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Tourism
RHANNU

18.2.25

Gwnewch cais nawr

Mae sefydliadau yn Wrecsam yn cael eu gwahodd i ymgeisio am grantiau fel rhan o gam diweddaraf rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU.

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer £50k hyd at £700k ar draws pob maes blaenoriaeth CFfG, gan gynnwys…

Cymunedau a Lle

Grantiau ar gyfer prosiectau sy’n cryfhau balchder lleol (gan gynnwys digwyddiadau a gweithgareddau), yn cefnogi cyfleusterau lleol a mannau agored, ac yn gwella diogelwch cymunedol.

Cefnogi Busnesau Lleol

Grantiau i helpu busnesau lleol i gychwyn, ehangu neu gynyddu perfformiad.

Pobl a Sgiliau

Grantiau ar gyfer prosiectau a gweithgareddau sy’n helpu oedolion i wella eu sgiliau mathemateg, cyflogaeth a TG.

Bydd y cyfnod ymgeisio yn agor yr wythnos nesaf (o hanner dydd ar ddydd Llun, 17 Chwefror) ar gyfer sefydliadau, grwpiau a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym am i grwpiau a sefydliadau lleol fanteisio ar y cyfle gwych hwn, ac ystyried gwneud cais am grant.

“Os ydych chi’n gweithio ar brosiect a fydd yn helpu i gynyddu balchder a chyfleoedd bywyd lleol yn y fwrdeistref sirol, cymerwch gip – gallai hyn fod yn gyfle i sicrhau’r cyllid sydd ei angen arnoch.

“Rydyn ni hefyd eisiau i fusnesau lleol wneud yn fawr o’r cyfle hwn… i’w helpu i dyfu a chystadlu. Mae cefnogi cyflogwyr lleol yn hynod bwysig, ac nid ydym am weld unrhyw un yn colli’r cyfle.”

Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â gwefan Cyngor Wrecsam.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer gweminar ddydd Mawrth, 18 Chwefror am 12.30pm. Anfonwch e-bost at dîm CFfG y cyngor i gadw lle.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn un o bileri canolog agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU.
Ers ei chyflwyno yn 2023, mae Wrecsam wedi elwa ar dros £22 miliwn o arian grant i gefnogi mentrau lleol.

Daw’r rownd ddiweddaraf o grantiau o gronfa 2025-26 Wrecsam o gyllid CFfG, sy’n gyfanswm o dros £7.6 miliwn.

Rhannu
Erthygl flaenorol Arweinwyr Wrecsam a Sir y Fflint yn trafod cydweithio Arweinwyr Wrecsam a Sir y Fflint yn trafod cydweithio
Erthygl nesaf Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English