Fe wnaethom gynnal ymgynghoriad yn ddiweddar yn gofyn am eich barn am gynlluniau i godi £1 i barcio yn ein parciau gweledig ac i gyflwyno tâl ar ddeiliaid bathodyn glas ym mhob un o feysydd parcio’r cyngor.
Gyda phwy y gwnaethom ni ymgynghori?
Fe wnaethom gysylltu â’n holl gyrff statudol arferol megis BT, y Gwasanaeth Ambiwlans, Cymdeithas Coetsys a Chymdeithas Hurio Preifat. Ni wnaethom dderbyn ymatebion gan y cyrff yma.
Fe wnaethom hefyd gysylltu ag elusennau anabledd penodol megis Anabledd Cymru, Mencap, Diverse Cymru a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn lleol. Ni wnaethom dderbyn ymatebion gan y cyrff yma.
Roedd yr ymgynghoriad ar agor i’r cyhoedd hefyd ac fe wnaethom osod hysbysiadau safle ym mhob un o feysydd parcio canol y dref, yn Nhŷ Pawb, Gorsaf Rhiwabon, Parc Technoleg Wrecsam a’r parciau gweledig a fydd yn cael eu heffeithio gan y cynigion. Gosodwyd hysbysiadau ym mhapur newydd The Leader hefyd ar 1 Mawrth ynghyd â chyfeiriad e-bost er mwyn anfon ymatebion.
Cafwyd cyfanswm o 116 o ymatebion unigol i’r ymgynghoriad.
Gallwn ddadansoddi’r rhain fel a ganlyn
21 yn cefnogi’r ddau gynnig
21 yn gwrthwynebu’r cynnig i godi tâl ar ddeiliaid bathodyn glas
53 yn gwrthwynebu cyflwyno tâl i barcio ym meysydd parcio parciau gwledig
21 yn gwrthwynebu’r ddau gynnig.
Roedd y pryderon a fynegwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn wahanol ac yn amrywio o beidio bod yn fforddiadwy i bobl anabl, i’r effaith y byddai’n ei gael ar y niferoedd a fyddai’n ymweld â’n parciau gwledig. Fe soniwyd am hygyrchedd peiriannau, ynghyd â phobl ddim yn ymweld â chanol y dref.
Wrth ymateb fe nodwyd nad ydi cynllun y bathodyn glas yn destun prawf modd ac na ddylem dybio nad ydi deiliaid bathodyn glas yn gallu talu am barcio. Bydd nifer yr ymwelwyr i ganol y dref a pharciau gwledig yn cael ei fonitro, a bydd y peiriannau yn cydymffurfio’n llawn â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Byddwn rŵan yn cyflwyno tâl am barcio yn y parciau gwledig fel y cynigiwyd ac eithrio i ddeiliaid bathodyn glas pobl anabl gan nad oes yna lefydd parcio eraill iddynt yn y lleoliadau hyn. Bydd y taliadau arfaethedig i ddeiliaid bathodyn glas ym mhob un o feysydd parcio’r cyngor yn cael ei gyflwyno heb unrhyw newidiadau.
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Roedd cyflwyno tâl mewn cyfleusterau a arferai fod am ddim bob amser yn mynd i greu siom ymysg aelodau’r cyhoedd. Serch hynny, rydym wedi cadw’r prisiau mor isel â phosibl yn y parciau gwledig ac rwy’n falch na fydd rhaid i ddeiliaid bathodyn glas dalu i barcio pan fyddant yn ymweld. Byddwn yn monitro nifer yr ymwelwyr er mwyn asesu effaith y taliadau.”
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI