Mae Canolfan Groeso Wrecsam yn symud, a chafwyd cadarnhad y bydd yn symud o’i leoliad presennol yn Sgwâr y Frenhines i Stryt Caer.
Mae’r galw am wybodaeth i ymwelwyr a bwyd a diod lleol wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf wrth i fwy o dwristiaid dydd a thwristiaid sy’n aros dros nos ddewis ymweld â Sir Wrecsam. Mae rhan fawr o waith twristiaeth yr Awdurdod Lleol wedi canolbwyntio ar gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol i godi eu proffil trwy werthu eu stoc yn y ganolfan.
“Miliwn o ymwelwyr”
Agorodd y Ganolfan yn 1991, ac yn 2015 daeth ymwelydd rhif miliwn i mewn trwy’r drysau, ac mae’n parhau i groesawu ymwelwyr lleol a thramor i’r dref. Mae llawer ohonynt yn ymweld ag atyniadau megis Eglwys Plwyf San Silyn, y clwb pêl-droed, Amgueddfa Wrecsam, Tŷ Pawb a Techniquest Glyndŵr. Mae digwyddiadau wedi cyfrannu’n helaeth tuag at y twf yn yr economi ymwelwyr (sydd werth bron i £120m y flwyddyn erbyn hyn), gyda digwyddiadau megis y Farchnad Nadolig Fictoraidd, gŵyl Fwyd a Diod Wrecsam a FOCUS Wales ymysg y digwyddiadau sy’n denu’r ymwelwyr mawr.
Bydd y Ganolfan newydd wedi’i lleoli yn yr unedau yr arferai siop Oriel Wrecsam eu defnyddio cyn iddynt adleoli i Tŷ Pawb. Fe fydd yr unedau’n cael eu huno i greu mwy o arwynebedd llawr er mwyn i’r tîm i werthu eu dewis presennol o docynnau, cwrw heb eu hoeri, diodydd jin lleol ac anrhegion – yn ogystal â chynnyrch ffres newydd. Bydd gofod hyblyg dros dro ar gael yn yr uned hefyd, ar gyfer cynhyrchwyr bwyd lleol, gofod coginio ar gyfer nosweithiau arddangos gan gogyddion a gofod swyddfa a chyfarfod preifat.
“Rhan o’r economi sydd yn tyfu gyflymaf”
Tra’n siarad am symud y Ganolfan, dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi, y Cynghorydd Terry Evans; “Ein nod fel Cyngor ydi cefnogi twristiaeth, sef un o’r rhannau o’r economi sydd wedi tyfu gyflymaf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae canol y dref bellach wedi cael ei nodi fel prif fan ymwelwyr ar gyfer y Sir, ac felly rydym eisiau Canolfan Groeso o safon, o’r radd flaenaf ac eang. Bydd hefyd yn cyd-fynd ag adleoli Techniquest Glyndŵr wrth iddynt symud i Stryt Caer, ac wrth gwrs Tŷ Pawb.”
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Twristiaeth Dyma Wrecsam Sam Regan; “Mae’r buddsoddiad yma’n arwydd gwirioneddol o fwriad y Cyngor i barhau i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yma yn Wrecsam, a bydd yn creu gofod o’r radd flaenaf ar gyfer darparwyr bwyd a diod i farchnata eu cynnyrch yng nghanol y dref.”
Mae cynlluniau’r penseiri wrthi’n cael eu hadolygu, ac os aiff y cyfan yn ddidrafferth, disgwylir y bydd y Ganolfan yn symud i hen safle Oriel Wrecsam ar Stryt Caer y gaeaf yma.
Mae’r cyfan yn cefnogi Cynllun Gweithredu Rheoli Cyrchfan ynghyd â’r newyddion y bydd Techniquest yn symud i hen adeilad TJ Hughes.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN