Bu’n gyfnod hir o gynllunio’r prosiect, ond lansiwyd Y Gofyn Fawr y mis yma!
Mae ymgyrch Y Gofyn Fawr yn gofyn i chi beth allwch chi ei wneud i blant Wrecsam.
Caiff yr ymgyrch ei rhedeg gan dîm rhieni corfforaethol y Cyngor, a’r amcan yw amlygu amrywiol anghenion plant ar draws y fwrdeistref sirol, yn ogystal â dangos bod bodloni anghenion plant y fwrdeistref sirol yn gyfrifoldeb i ni gyd. Mae hyn yn golygu fod gan pawb ran i’w chwarae – staff y cyngor, y bobl mae’r cyngor yn cydweithio â nhw, yn ogystal â thrigolion.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
Dros yr ychydig wythnosau nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar blant sydd un ai yn byw mewn gofal neu, am amrywiol resymau, ddim yn gallu byw gyda’u teuluoedd genedigol. Felly, byddwn yn gofyn i chi beth ydych chi’n feddwl allwch chi ei wneud i helpu.
Byddwn yn chwilio am bobl sy’n deall anghenion y plant a’r bobl ifanc yma, a hoffem siarad â chi os ydych chi wedi mabwysiadu, yn ofalwr maeth, neu os allech ddarparu llety â chymorth. Gallwn gynnig hyfforddiant a lwfans bach er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch ddarparu’r gofal gorau.
Byddwn yn cyflwyno mwy o straeon dros yr wythnosau nesaf, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi a rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am sut gallwch chwarae rhan a helpu plant Wrecsam i gyrraedd eu llawn botensial.
CANFOD Y FFEITHIAU