Mae Maer Wrecsam yn chwilio am dîm o bedlwyr brwdfrydig i ymuno ag o mewn digwyddiad codi arian.
Ddydd Gwener, 20 Ebrill, bydd y Cynghorydd John Pritchard, Maer Wrecsam, yn arwain tîm o feicwyr “sbinio” mewn her elusennol pedair awr o hyd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr Wrecsam, i godi cymaint o arian â phosibl i elusen.
Cynhelir yr her rhwng 1pm a 5pm.
Bydd Trevor Coxon, cyn Bennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid y Cyngor, yn ymuno yn y digwyddiad, ac mae’n feiciwr brwd a chodwr arian gwych ar gyfer Canser y Prostad.
Mae Amanda Roberts o Freedom Leisure hefyd wedi cytuno’n garedig i gymryd rhan yn y sbinio, a bydd Trevor ac Amanda yn ffurfio craidd tîm yr her.
Caiff yr arian a godir gan y sawl fydd yn sbinio ei rannu’n gyfartal rhwng elusennau o ddewis y Maer a Prostate Cancer UK.
“Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan”
Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl, ac rydym am i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan mewn cymaint neu gyn lleied o’r her sbinio eu hunain, a chael nawdd am wneud hynny – neu noddi’r rhai a fydd yn gwneud. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn feicwyr arbenigol, a gallant wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunant.
“Y peth pwysig yw y bydd ystod o achosion da yn elwa o’r digwyddiad hwn, felly rydym am godi cymaint o arian â phosibl.
“Hoffwn ddiolch i Freedom Leisure am gynnig defnyddio eu hystafell sbinio ffantastig yn stiwdio Myride y Ganolfan Byd Dŵr – heb os, bydd y llwybr rhithwir yn helpu i gymell y rhai sy’n codi arian i barhau i bedlo!”
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen digwyddiadau Waterworld ar Facebook.