Yn ddiweddar aeth Maer Wrecsam i weld dau of ifanc sydd wedi achosi ychydig o gynnwrf yn y DU gyda’u creadigaethau.
Mae Ollie a Harvey o O & H Designs yn Wrecsam yn gefndryd sydd wedi cydio yn eu traddodiad teuluol 18 mis yn ôl yn ystod y cyfnod clo, a nhw rŵan ydi’r seithfed genhedlaeth yn eu teulu i ofannu.
Gan ddechrau drwy wneud eitemau bychain fel torchau allwedd a dalwyr poteli, aeth y ddau ati i fireinio eu crefft dan arweiniad eu taid, Tony Roberts, i wneud dyluniadau cymhleth fel rhosod, cennin Pedr a llygaid y dydd.
Cyffro yn y Cyfryngau
Oherwydd eu hoedran (mae Ollie yn 14 a Harvey yn 13), cafodd hanes eu doniau ei adrodd yn y wasg leol – ac arweiniodd hynny at sylw eang.
Cyn hir roedd ITV News a Channel 4 yn galw amdanyn nhw. Yn ystod sylw ar ITV Wales a’r newyddion cenedlaethol cafodd y ddau eu galw’n ofaint ieuengaf Prydain.
Mae eu llwyddiant parhaus a’u gwaith elusennol wedi arwain at ddau gomisiwn gan Gyngor Cymuned Acton. Roedd y darn cyntaf yn bysgodyn pedwar troedfedd allan o lwyau, sydd i’w weld ger Llyn Parc Acton. Roedd yr ail ddarn yn bedol ceffyl 10 troedfedd, wedi’i wneud allan o bedolau. Mae’r cerflun hwn i’w weld yng Ngefail Acton, lle daw eu teulu.
Cleientiaid Proffil Uchel
Mae’r bechgyn wedi mwynhau deunaw mis llwyddiannus iawn. Maen nhw wedi ehangu eu busnes ac yn derbyn archebion o bob cwr o’r DU a thu hwnt.
Ac mae eu doniau a’u gwaith caled wedi’u cydnabod gan ffigyrau proffil uchel. Mae Ollie a Harvey wedi derbyn llythyrau o Stryd Downing a gan y Frenhines, yn canmol eu medrau unigryw. Felly penderfynodd y bechgyn anfon darn at y Prif Weinidog ei hun.
Meddai Tony, eu taid: “Oherwydd diddordeb a brwdfrydedd y bechgyn yn y grefft rŵan, pan fydd hi’n bryd iddyn nhw adael yr ysgol dw i’n gobeithio y bydd y gwaith a’r profiad yma wedi bod o fudd iddyn nhw ac yn rhoi sylfaen gadarn iddyn nhw mewn bywyd.
“Maen nhw’n dal yr un mor frwdfrydig heddiw ag yr oedden nhw ddwy flynedd yn ôl. I gynnal y brwdfrydedd mae’n help mawr gadael iddyn nhw fod yn greadigol gan fod arnyn nhw eisiau rhoi cynnig ar syniadau a dyluniadau newydd.”
Ymwelydd dinesig yn galw heibio
Cafodd Maer Wrecsam, Ronnie Prince, wahoddiad i ymweld ag Ollie a Harvey. Fe alwodd heibio i’r gweithdy lle mae’r syniadau yn dod yn fyw.
Yn ystod yr ymweliad fe gafodd daith o amgylch y gweithdy a chyfle i weld rhai o’r eitemau y mae’r bechgyn ar ganol eu gwneud. Fe gafodd hefyd weld darnau wedi’u gorffen cyn iddyn nhw gael eu cludo i’w cartrefi newydd.
Ar ôl sgwrsio efo’r bechgyn, dywedodd y Maer: “Mae’n braf gweld talent o’r fath yn dod o Wrecsam. Mae Ollie a Harvey yn llawn haeddiant o’r sylw maen nhw wedi’i dderbyn yn ddiweddar.
Roedd yn anrhydedd cael dod yma heddiw i weld yr hud. Mae’n rhaid i mi ddweud hefyd pa mor braf ydi cael gweld y genhedlaeth iau yn parhau â chrefft draddodiadol. Dymunaf bob llwyddiant i’r bechgyn yn y dyfodol.”