Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd
Pobl a lle

Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 23, 2021 9:26 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Recycling team says thanks for Victorian Christmas Market success
RHANNU

Dymuna Catherine Golightly, ein Swyddog Strategaeth Gwastraff ac Emma Watson, Arweinydd Caru Cymru ddiolch i bawb a fu i ymweld â’u stondin yn y Farchnad Nadolig Fictoraidd ddechrau’r mis.

Cynnwys
  • “Balch iawn o sut aeth pethau”
    • Cymerodd gweithwyr stondinau ran hefyd
  • Caru Cymru
  • Bagiau Cadi

Roedd gan y ddwy stondin wedi’i lleoli y tu allan i Eglwys Plwyf San Silyn yn y digwyddiad, ddydd Iau, 10 Rhagfyr, ac roeddent wrth eu boddau o weld cymaint o bobl ar y diwrnod.

Rhyngddynt, fe wnaethant ddosbarthu 250 o sachau glas (ar gyfer ailgylchu papur/cardfwrdd) a dros 200 o leinars biniau bwyd y gellir ei gompostio, yn ogystal â chael y cyfle i siarad â dros 200 o bobl am ailgylchu.

Roedd y canlyniad yn wych ac mae’r tîm eisoes yn ystyried cynnal rhywbeth tebyg yn y dyfodol, gyda hyd yn oed mwy o bwyslais ar ailgylchu o fewn y digwyddiad ei hun.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

“Balch iawn o sut aeth pethau”

Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’n wych bod cymaint o bobl wedi dod draw i weld ein tîm. Dyma’r tro cyntaf i ni gael stondin ailgylchu yn y math hwn o ddigwyddiad, ac yn gyffredinol roedd yr argraff yn gadarnhaol, gyda llawer o sachau glas a leinars biniau bwyd yn cael eu dosbarthu. Gwnaeth y tîm gofnod o unrhyw faterion a godwyd yn ymwneud â chasglu, fel eu bod yn gallu cymryd camau dilynol. Rydym yn hynod falch o sut aeth pethau a gallwn ystyried cynnwys ailgylchu mewn mwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol.”

Cymerodd gweithwyr stondinau ran hefyd

Roedd nifer o werthwyr bwyd (The Phoenix Vegan Street Food, B Freeman’s Catering, The Rustic Cooks) yn y digwyddiad yn fodlon derbyn y biniau sy’n cael eu casglu ar garreg y drws a leinars bwyd y gellir ei gompostio gan ein tîm fel eu bod nhw’n gallu ailgylchu eu gwastraff bwyd.

Gwnaeth gwerthwyr a siopwyr hefyd ddefnydd o’r amrywiol finiau ailgylchu oedd wedi eu lleoli yn y digwyddiad, a alluogodd ailgylchu “ar hyd y lle” am y tro cyntaf.

Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd
Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd

Caru Cymru

Roedd Emma hefyd yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o brosiect Cadw Cymru’n Daclus, sef Caru Cymru, sy’n ceisio ysbrydoli pawb i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Ar y stondin, roedd pecyn casglu sbwriel Caru Cymru, a siaradodd y tîm â phobl nad oedd yn ymwybodol o’r fenter a mynegodd llawer ohonynt ddiddordeb mewn cymryd rhan.

Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd
Y tîm ailgylchu yn diolch am lwyddiant Marchnad Nadolig Fictoraidd

Dywedodd Emma Watson, Swyddog Ansawdd Addysg yr Amgylchedd ac arweinydd Caru Cymru: “Am y tro cyntaf ers dechrau’r prosiect hwn, roedd cael y cyfle i siarad â phobl am eu diddordebau a’u hanghenion yn wych. Fe wnaeth arddangos ein pecyn, sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch er mwyn cymryd rhan mewn sesiynau glanhau cymunedol, ddenu sylw pobl ac roeddent yn synnu o glywed bod modd defnyddio’r holl bethau yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, fe wnaeth treialu’r ailgylchu ar hyd y lle, roi cipolwg i ni ar ymddygiad pobl mewn digwyddiadau wedi’u trefnu- mae’n sicr yn rhywbeth yr ydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan ynddo eto. Diolch o galon i bawb a fynychodd ac i’r trefnwyr.”

Mae modd dysgu mwy am Garu Cymru yma neu gallwch gysylltu’n uniongyrchol ag Emma ar carucymru@wrexham.gov.uk

Bagiau Cadi

Cofiwch y gall unrhyw breswyliwr sydd angen mwy o fagiau glymu bag i ddolen eu cadi ymyl palmant ar y diwrnod casglu, a bydd y casglwyr yn gadael rholyn newydd i chi.

Neu, gallwch bellach gasglu bagiau cadi o un o 40 lleoliad yn Wrecsam.

Ailgylchu – dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwybodaeth Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro
Erthygl nesaf Deputy Mayor, Councillor Brian Cameron meets the staff at the Golden Lion, Coedpoeth Nadolig euraidd yn y Golden Lion

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English