Rydym wedi bod yn gweithio ar gynllun rydym yn gobeithio a fydd yn arwain presennol a dyfodol bwrdeistref sirol Wrecsam. Mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Dyna pam rydym wedi gweithio’n galed i’ch cynnwys chi ar bob cam o’r ffordd, a rŵan mae’n bryd gofyn am eich barn ar y cynllun rydym wedi ei ddrafftio.
Mae yna lawer o gynlluniau. Os gwir angen am un arall yn Wrecsam?
Wel, oes. Nod y Wrecsam a Garem yw creu lle y mae pob un ohonom eisiau byw ynddo – rŵan, ac yn y dyfodol.
Ynghyd â gweddill Prydain, rydym yn wynebu heriau mawr yng Nghymru. Pethau fel tlodi, materion economaidd, poblogaeth sy’n heneiddio a newid hinsawdd.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Felly mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn gyfraith newydd sy’n ceisio cael gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau i gydweithio i fynd i’r afael â’r heriau hyn a gwella dyfodol hirdymor Cymru.
Mae’n trafod pethau fel cyflogaeth, yr amgylchedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau, diwylliant, y Gymraeg, a’n heffaith o amgylch y byd.
Gwneud iddo Ddigwydd
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Wrecsam (BGC Wrecsam) yw’r cymhelliant y tu ôl i’r cynllun hwn.
Rydym yn bartneriaeth sy’n cynnwys nifer o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Er enghraifft gwasanaethau iechyd, gwasanaethau tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Cyngor, yr heddlu, gwasanaethau prawf, Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, AVOW a Llywodraeth Cymru.
Rydym eisiau gweithio gyda phobl leol i ddatblygu’r cynllun hirdymor hwn ar gyfer Wrecsam, a helpu rhoi Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae rhai o’r pethau dan sylw yn amrywiol iawn ac yn trafod nifer o feysydd pwysig, a bydd llawer ohonynt yn mynd yn bwysicach yn y dyfodol wrth i ddemograffeg newid ac i’r pwysau newid.
“Rydym yn dymuno amlinellu syniad o ran sut y bydd y datblygiadau hynny’n cael eu harwain, i sicrhau wrth i bethau newid, nad yw barn pobl Wrecsam yn cael ei golli ar hyd y ffordd.
“A, gan ystyried hynny, byddwn yn annog pobl i gymryd rhan yn ymgynghoriad Y Wrecsam a Garem.”
Dywedodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Ieuenctid a Gwrthdlodi: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn amlinellu cyfrifoldebau eang arnom ni a’n partneriaid mewn awdurdodau a gwasanaethau eraill, a bydd y Cynllun Llesiant yn amlinellu sut y byddwn yn ymateb i’r cyfrifoldebau hynny, a sut y bydd gwasanaethau yn Wrecsam yn newid i’w cyflawni.
“Ond fel y mae’r Cynghorydd Jones yn nodi, bydd barn y cyhoedd yn arbennig o bwysig, ac felly byddwn yn argymell bod unrhyw un sydd eisiau ein helpu i arwain y newidiadau hynny yn cymryd rhan.”
I wybod mwy am yr hyn mae’r BGC yn ei wneud a pham, ewch i www.bgcwrecsam.org
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i www.yourvoicewrexham.net – neu gofynnwch am gopi papur o’r ymgynghoriad drwy ffonio 01978 292000.
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL