Mae cynlluniau i adnewyddu dwy Farchnad yn Wrecsam wedi cael hwb wedi i Lywodraeth Cymru gymeradwyo £2m o gyllid ar gyfer Marchnad y Cigydd, fel rhan o gynllun Trawsnewid Trefi.
Mae’r gwaith adnewyddu’n rhan o Gynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam a bydd y gwaith ar y rhan hanesyddol hon o Wrecsam yn dechrau pan fydd y cynlluniau yn eu lle a chaniatâd wedi ei roi.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Er bod y pandemig wedi effeithio ar ddatblygiad y prosiect hwn, mae’r gwaith nawr yn mynd rhagddo’n gyflym er mwyn cyflwyno cynllun cyflawni i’r cynghorwyr yn yr haf.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae hwn yn newyddion ardderchog ac mae’n sicrhau y bydd gwaith yn cael ei wneud ar y cynllun treftadaeth treflun pwysig hwn. Ein marchnadoedd yw ein treftadaeth ni ac mae angen gwneud gwelliannau sylweddol i Farchnad y Cigydd er mwyn gwneud yn siŵr ei bod yn addas i’r diben am flynyddoedd lawer i ddod.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi, “Er bod y pandemig wedi tarfu ar ein cynlluniau am gyfnod, rydym nawr yn gweithio’n gyflym er mwyn sicrhau y bydd cynigion dylunio’n cael eu cyflwyno i’r cynghorwyr eu cymeradwyo ym mis Mehefin. Rydym wedi trafod gyda’r tenantiaid presennol a byddwn yn sicrhau ein bod yn rhannu ein holl gynigion a’n cynlluniau diweddaraf gyda nhw.”
Dywedodd Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters: “Rydym yn buddsoddi swm sylweddol o gyllid trwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i ddarparu canol drefi fel Wrecsam gyda hwb sydd ei angen. “Ynghyd a darparu cynaladwyedd i ganol y dref, bydd y cyllid hwn yn helpu i ddefnyddio’r dreftadaeth bwysig a denu mwy o bobl yn ôl i ganol y dre.”
Agorwyd Marchnad y Cigydd yn 1848 a’r Farchnad Gyffredinol yn 1879. Nid oes gwaith adnewyddu sylweddol wedi ei wneud ar yr un o’r ddwy ac mae hi nawr yn amser i ni edrych ar ddyfodol y tenantiaid presennol a thenantiaid y dyfodol er mwyn sicrhau bod y ddwy farchnad yn ffynnu yng nghanol y dref.
Mae cynllun Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r dirywiad yng nghanol dinasoedd a threfi Cymru a sicrhau eu bod nid yn unig yn goroesi ond eu bod hefyd yn ffynnu.
Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar wella bioamrywiaeth ac isadeiledd gwyrdd; ailddefnyddio adeiladau sy’n adfeilion; gwella’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael mewn trefi, gyda phwyslais ar weithio hyblyg a mannau byw; a mynediad at wasanaethau a chyfleusterau hamdden.
Y flaenoriaeth yw sicrhau cynaliadwyedd canol ein trefi a’n dinasoedd yn yr hirdymor drwy gynyddu nifer yr ymwelwyr a’u gwneud yn fannau deniadol i dreulio amser ynddyn nhw.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH