Fel yr ydych yn gwybod, rydym yn gweld cyfnodau hir o law, gydag o gwmpas 30-40mm o law dros bob ardal, a gyda 70-80mm o law ar dir uchel.
Mae’r rhagolwg yn awgrymu lleihad yn y glaw drwy’r ddydd, ond bydd glaw trwm yn ailddechrau ymhellach ymlaen. Rydym yn disgwyl glaw trymach heno a trwy’r nos – rydym yn rhagweld tua 20-30mm. Bydd y tywydd yn gwella fory.
Materion cenedlaethol a rhybuddion – Diweddariad
Mae Rhybudd o Lifogydd wedi cael ei gyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.
Rhybudd o Lifogydd mewn grym: Gwastatir Dyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a Dolydd Trefalyn.
Disgwylir llifogydd mewn: Eiddo ynysedig ac ardaloedd eang o dir amaethyddol yng ngorlifdir Gwastatir Dyfrdwy.
Mae rhybudd llifogydd mewn lle ym Mangor-is-y-Coed, ond ar hyn o bryd mae’r risg yn gymharol isel
Mae’r nifer o faterion lleol yn tyfu, ond staff wedi delio a nifer ohonynt heddiw.
Dderbyniwyd dros 150 o adroddiadau annibynnol gan y Canolfan Cyswllt, ac mae nifer o safleoedd dan sylw ar hyn o bryd.
Yn anffodus, rydym yn ymwybodol o fylchu i nifer o eiddo. Rydym yn delio gyda nifer o alwadau am fagiau tywod.
Rhwystradau i Deithio
Bydd rhwystrad i deithio ar reilffordd – awgrymwyd i deithwyr i gysylltu â National Rail gydag unrhyw ymholiadau.
A41 Broxton i Gaer – CAU gan HEDDLU CAER
Gwyriad ar gael ar yr A534 (problemau lleol yn Llan y Pwll – yn cael ei fonitro yn ofalus)
Ffyrdd Lleol
Mae problemau ar nifer o ffyrdd traffig pwysig lleol.
Ffordd Cefn – Pum Rhyd – AR GAU
Glannau Clywedog wedi gorlifo
Lon Gamford, Yr Orsedd – AR GAU
Draeniau yn llawn
B5130 Isycoed/Bowling Bank – Ar agor ond rhaid cymryd gofal
B4500 Pontfadog – Ar agor ond rhaid cymryd gofal